
Amdanom ni
Pwy ydyn ni?
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn sefydliad rhwydwaith, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, sy’n dod ag ystod eang o bartneriaid ledled y GIG yng Nghymru, prifysgolion a sefydliadau ymchwil, awdurdodau lleol, ac eraill, ynghyd.
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth agos gydag asiantaethau eraill y Llywodraeth a chyllidwyr ymchwil (yng Nghymru ac ledled y Deyrnas Unedig); partneriaid diwydiant; cleifion; aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.
Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i hyrwyddo ymchwil ar gyfer heintiau, triniaethau, gwasanaethau a chanlyniadau a all arwain at ddarganfyddiadau ac arloesedd a hyd yn oed achub bywydau pobl.
Pobl allweddol
Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Carys Thomas, Pennaeth Polisi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflenwi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Helen Grindell, Pennaeth y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Felicity Waters, Pennaeth Cyfathrebiadau, Ymgysylltu a Chynnwys, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru