
Swydd wag: Cynorthwy-ydd Ymchwil
Math o gontract: Cyfnod penodol
Cyflog: £15,023 i £16,898 y flwyddyn, pro rata
Patrwm gwaith: 17.5 yr wythnos
Rhif Swydd: AC04250
Lleoliad: Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer cynorthwy-ydd ymchwil yng Ngrŵp Ymchwil Niwroleg Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Maent yn chwilio am unigolion sydd â sgiliau a phrofiad o ddadansoddi data (yn ddelfrydol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol) a chefndir mewn epidemioleg, ystadegau, cyfrifiadura, neu ddisgyblaeth debyg, i weithio ar ymchwil data a gesglir yn rheolaidd ar gyfer prosiectau ymchwil niwroleg a niwrowyddoniaeth.
Caiff y swydd hon ei hariannu gan yr uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN). Caiff uned BRAIN ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n sefydliad ymchwil Cymreig sy’n gweithio i ddatblygu therapïau newydd ar gyfer clefydau’r ymennydd. Swydd ran amser am gyfnod penodol yw hon ar hyn o bryd.
Mae’r swydd yn gyfle cyffrous i ymuno ag Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, un o brif Ysgolion Meddygol y DU.
Dyddiad cau: 12 Rhagfyr 2020
Croesewir ymholiadau anffurfiol a dylid eu cyfeirio at Dr Owen Pickrell
I gael gwybod mwy ac i wneud cais ewch i wefan Prifysgol Abertawe