
Swydd wag: Nyrs Ymchwil Cyfleuster Ymchwil Clinigol
Math o Swydd: Parhaol
Band Cyflog: 6
Patrwm gwaith: Llawn amser
Cyfeirnod Swydd: 001-NMR444-1120
Lleoliad: Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ym maes ymchwil a datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar gyfer Nyrs Ymchwil Clinigol i fod yn rhan o’r tîm cyflawni ymchwil sy’n cynorthwyo ymchwil yng Nghaerdydd a’r Fro.
Maent yn dymuno cyflogi Nyrs Gofrestredig band 6 sydd â phrofiad o nyrsio acíwt a diddordeb brwd mewn ymchwil clinigol. Nid yw profiad blaenorol o ymchwil yn hanfodol oherwydd bydd hyfforddiant mewnol yn cael ei ddarparu. Bydd y swydd yn cynnwys gofalu am gleifion drwy dreialon camau cynnar, gan hefyd fod yn gyfrifol am reoli portffolio o dreialon. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y Cyfleuster Ymchwil Clinigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dyddiad cau: 6 Rhagfyr 2020
Am fwy o fanylion / ymweliadau anffurfiol cysylltwch â: Emma Norling 02920748251 neu Susan Figueirido
I ddysgu mwy neu i wneud cais ewch i Swyddi’r GIG