Helpwch i lunio ymchwil i wella gofal i bobl â thiwmorau'r ymennydd
Defnyddiwch eich profiad i wneud gwahaniaeth yn y ffordd y rhoddir gofal i bobl sy'n byw gyda thiwmor yr ymennydd.
Hoffai ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd gynnwys dau aelod o'r cyhoedd i ddod yn rhan o'r Astudiaeth COMBaT (Canlyniadau Craidd i Fesur anghenion clinigol ar gyfer pobl â Thiwmorau Ymennydd cynradd). Mae'r astudiaeth yn ceisio asesu anghenion pobl sy'n byw gyda math o diwmor yr ymennydd o'r enw glioma a'r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Profiad bywyd o glioma neu fath arall o diwmor yr ymennydd, naill ai fel:
- Claf sydd wedi cael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd, neu
- Gofalwr neu aelod o'r teulu sydd wedi cefnogi rhywun â thiwmor ar yr ymennydd.
Er nad yw'n angenrheidiol, gallai'r canlynol hefyd fod yn ddefnyddiol:
- Diddordeb mewn ymchwil iechyd neu ganser.
- Parodrwydd i rannu eich barn a'ch profiadau.
- Bod yn gyfforddus wrth ddefnyddio e-bost a galwadau fideo (Teams)
- Y gallu i ddarllen a gwneud sylwadau ar ddogfennau Word.
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
- Mynychu cyfarfodydd tîm rheolaidd (ar-lein yn bennaf, tua unwaith bob wyth wythnos).
- Paratoi ar gyfer cyfarfodydd trwy adolygu deunyddiau ymlaen llaw.
- Darllen a rhoi sylwadau ar ddogfennau astudiaeth (e.e. arolygon, taflenni gwybodaeth)
- Rhannu eich barn a'ch profiad bywyd i lunio'r ymchwil.
- Rhoi adborth ar:
- Cynllun yr arolwg a’r gweithdy.
- Dadansoddi a dehongli data.
- Deunyddiau’r astudiaeth a’r deunydd cyfathrebu.
- Helpu i sicrhau bod yr ymchwil yn adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf i gleifion a gofalwyr.
- Pa mor hir fydd fy angen?
- Byddwch yn rhan o'r astudiaeth COMBaT tan fis Chwefror 2027, a dyna pryd y disgwylir i'r astudiaeth ddod i ben.
- Byddwch yn rhan o'r prosiect trwy gydol ei wahanol gamau, o gynllunio a chasglu data i ddadansoddi a rhannu canlyniadau.
- Mae'r tîm yn hapus i weithio gyda chi i gytuno ar faint o amser y gallwch ei roi a phryd.
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
- Dylanwadu ar sut mae ymchwil tiwmor yr ymennydd yn cael ei gynllunio a'i gyflwyno yn y dyfodol.
- Sicrhau bod lleisiau pobl sydd â phrofiad bywyd yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi.
- Gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr a chyfranwyr cyhoeddus eraill mewn amgylchedd cefnogol.
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Bydd Prifysgol Caerdydd yn:
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol.
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- Byddwch yn derbyn hyfforddiant, mentora a chefnogaeth gan weithwyr cynnwys y cyhoedd proffesiynol profiadol.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.
Cwblhewch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Online
Sefydliad Lletyol:
Canolfan Ymchwil Marie Curie, Prifysgol Caerdydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm