Gweinyddwr y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi - Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae cyfle unigryw a chyffrous wedi codi i unigolyn eithriadol gael ei benodi fel Gweinyddwr y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi.
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol o 12 mis i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth.
Bydd angen bod gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu rhagorol, meddu ar ymagwedd gadarnhaol a hyblyg tuag at anghenion y Gwasanaeth, y gallu i gael ei ysgogi, yn barod ar gyfer yr her nesaf ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm prysur iawn.
Gall y swydd gau'n gynnar os derbynnir ceisiadau digonol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gan ddeiliad y swydd y dyletswyddau a chyfrifoldebau canlynol:
- Darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr i uwch staff o fewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
- Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ac yn delio â'r holl ymholiadau, gohebiaeth, e-byst a galwadau ffôn gan randdeiliaid ar draws seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a thu hwnt gan gynnwys staff eraill y GIG a Gofal Cymdeithasol ac aelodau o'r cyhoedd, mewn modd proffesiynol, gan drosglwyddo ymholiadau at aelod perthnasol y tîm mewn modd amserol.
- Disgwylir i chi ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys gwasanaethau ysgrifenyddiaeth, rheoli dyddiaduron, llungopïo, argraffu, a rheoli post a pharseli sy'n dod i mewn ac yn mynd allan.
- Byddwch yn gweithio gyda Gweinyddwyr Canolfan Cymorth a Chyflenwi eraill i ddarparu gwasanaeth effeithiol ar draws y sefydliad, delio ag ymwelwyr a bod yn hyblyg i ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol Gweinyddwyr eraill fel y cydlynir gan Reolwr Gwasanaethau.
- Byddwch yn cyfrannu fel y bo'n briodol at ddyletswyddau eraill drwy gytundeb ar y cyd â’ch rheolwr llinell.
Contract type: Cyfnod Penodol: 12 mis (Secondment)
Hours: Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Salary: Band 4 - £26,928 - £29,551 per annum
Lleoliad: Caerdydd
Job reference:
070-AC018-0225
070-AC018-0225
Closing date: