Ydych chi'n byw gyda lymffoedema?
Defnyddiwch eich profiad o fyw gyda lymffoedema i helpu i lunio ymchwil sydd â’r nod o ganfod methiant y galon yn gynharach.
Mae'r Tîm Lymffoedema Cenedlaethol yn datblygu astudiaeth i ddarganfod a all profion gwaed syml a gynhelir mewn clinigau lymffoedema helpu i ganfod methiant y galon yn gynnar. Gallai canfod methiant y galon yn gynt wella triniaeth a lleihau derbyniadau brys i'r ysbyty.
Mae'r tîm eisiau deall sut mae pobl yn teimlo am gael y prawf gwaed yn ystod eu hapwyntiad lymffoedema a derbyn y canlyniadau ar unwaith. Bydd eich adborth yn helpu i wneud yr astudiaeth yn ystyrlon i gleifion.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Nid oes angen unrhyw brofiad ymchwil blaenorol na gwybodaeth arbenigol arnoch i gymryd rhan.
Bydd angen i chi fod yn:
- Byw yng Nghymru a bod dros 18 oed
- Byw gyda lymffoedema
- Gofalu am rywun yr effeithir arnynt gan lymffoedema, neu
- Defnyddio gwasanaethau iechyd cymunedol neu ysbytai.
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ar Microsoft Teams fydd yn para tuag awr.
Cyn y sesiwn, byddwch yn derbyn rhai dogfennau byr, hawdd eu darllen am yr ymchwil i'w hadolygu a rhoi eich adborth arnynt.
Yn ystod y sesiwn, byddwch yn:
- Gwrando ar gyflwyniad byr am yr ymchwil arfaethedig
- Rhannu eich meddyliau a'ch profiadau mewn trafodaeth hamddenol
- Dweud wrth y tîm ymchwil beth yw eich barn ar gael prawf gwaed pigiad bys mewn clinig lymffoedema a derbyn y canlyniadau yn eich apwyntiad.
- Pa mor hir fydd fy angen?
Gofynnir am eich cymorth am dair awr i gyd, fel y manylir isod:
- Tuag awr i adolygu gwybodaeth yr astudiaeth wrth baratoi ar gyfer y sesiwn
- Awr i gymryd rhan yn y drafodaeth ar-lein
- Tuag awr wedyn i fyfyrio a rhannu unrhyw feddyliau ychwanegol os dymunwch.
Efallai y bydd cyfle i ymuno â Grŵp Llywio'r Prosiect, bydd hyn yn cynnwys cyfarfod am awr ychwanegol ar-lein bob tri mis (gyda hyd at awr o baratoi ymlaen llaw) dros gyfnod o 18 mis.
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Trwy gymryd rhan, cewch gyfle i:
- Lunio ymchwil go iawn a allai wella sut mae methiant y galon yn cael ei ganfod a'i reoli yng Nghymru
- Rhannu eich profiadau a'ch barn i helpu i sicrhau bod yr astudiaeth yn canolbwyntio ar y claf a’i bod yn ymarferol
- Dysgu mwy am lymffoedema, methiant y galon a sut y gall ymchwil wella gofal a chanlyniadau
- Datblygu eich hyder wrth gyfrannu at drafodaethau ymchwil mewn lleoliad cefnogol, cynhwysol
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Bydd y Tîm Lymffoedema Cenedlaethol yn:
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- Bydd aelodau o'r tîm astudiaeth yn gallu eich cefnogi ynghylch cyfarfodydd i drafod yr hyn sydd ei angen.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.
Llenwch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Y Tîm Lymffoedema Cenedlaethol, wedi'i gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm