Ydych chi'n byw gyda lymffoedema?

Defnyddiwch eich profiad o fyw gyda lymffoedema i helpu i lunio ymchwil sydd â’r nod o ganfod methiant y galon yn gynharach.

 Mae'r Tîm Lymffoedema Cenedlaethol yn datblygu astudiaeth i ddarganfod a all profion gwaed syml a gynhelir mewn clinigau lymffoedema helpu i ganfod methiant y galon yn gynnar. Gallai canfod methiant y galon yn gynt wella triniaeth a lleihau derbyniadau brys i'r ysbyty.

Mae'r tîm eisiau deall sut mae pobl yn teimlo am gael y prawf gwaed yn ystod eu hapwyntiad lymffoedema a derbyn y canlyniadau ar unwaith. Bydd eich adborth yn helpu i wneud yr astudiaeth yn ystyrlon i gleifion.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Nid oes angen unrhyw brofiad ymchwil blaenorol na gwybodaeth arbenigol arnoch i gymryd rhan.

Bydd angen i chi fod yn: 

  • Byw yng Nghymru a bod dros 18 oed
  • Byw gyda lymffoedema
  • Gofalu am rywun yr effeithir arnynt gan lymffoedema, neu
  • Defnyddio gwasanaethau iechyd cymunedol neu ysbytai.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ar Microsoft Teams fydd yn para tuag awr.

Cyn y sesiwn, byddwch yn derbyn rhai dogfennau byr, hawdd eu darllen am yr ymchwil i'w hadolygu a rhoi eich adborth arnynt.

Yn ystod y sesiwn, byddwch yn:

  • Gwrando ar gyflwyniad byr am yr ymchwil arfaethedig
  • Rhannu eich meddyliau a'ch profiadau mewn trafodaeth hamddenol
  • Dweud wrth y tîm ymchwil beth yw eich barn ar gael prawf gwaed pigiad bys mewn clinig lymffoedema a derbyn y canlyniadau yn eich apwyntiad.
Pa mor hir fydd fy angen?

 Gofynnir am eich cymorth am dair awr i gyd, fel y manylir isod:

  • Tuag awr i adolygu gwybodaeth yr astudiaeth wrth baratoi ar gyfer y sesiwn
  • Awr i gymryd rhan yn y drafodaeth ar-lein
  • Tuag awr wedyn i fyfyrio a rhannu unrhyw feddyliau ychwanegol os dymunwch.

Efallai y bydd cyfle i ymuno â Grŵp Llywio'r Prosiect, bydd hyn yn cynnwys cyfarfod am awr ychwanegol ar-lein bob tri mis (gyda hyd at awr o baratoi ymlaen llaw) dros gyfnod o 18 mis.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?

Trwy gymryd rhan, cewch gyfle i:

  • Lunio ymchwil go iawn a allai wella sut mae methiant y galon yn cael ei ganfod a'i reoli yng Nghymru
  • Rhannu eich profiadau a'ch barn i helpu i sicrhau bod yr astudiaeth yn canolbwyntio ar y claf a’i bod yn ymarferol
  • Dysgu mwy am lymffoedema, methiant y galon a sut y gall ymchwil wella gofal a chanlyniadau
  • Datblygu eich hyder wrth gyfrannu at drafodaethau ymchwil mewn lleoliad cefnogol, cynhwysol
 Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Bydd y Tîm Lymffoedema Cenedlaethol yn:

  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
  • Bydd aelodau o'r tîm astudiaeth yn gallu eich cefnogi ynghylch cyfarfodydd i drafod yr hyn sydd ei angen.

 Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Y Tîm Lymffoedema Cenedlaethol, wedi'i gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm