Oes gennych chi glefyd prin, canser sydd wedi’i etifeddu neu brofiad o brofion genetig?

Helpwch i ddatblygu dyfodol gwasanaethau genomeg yng Nghymru drwy rannu eich profiadau i lunio polisïau, llwybrau gofal ac ymchwil.

Pwy sy’n cael cymryd rhan?

Pobl:

  • sydd â phrofiad personol (neu’n gofalu am rywun sydd â phrofiad) o brofion genetig / genomeg / meddygaeth fanwl / treialon clinigol / canser etifeddol / clefydau prin / anhwylderau oedi mewn datblygiad
  • sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu da
  • sy’n gallu cynrychioli grwpiau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol
  • nad oes ganddyn nhw brofiad proffesiynol o weithio ym maes genomeg
  • sydd ar gael i fynychu hyfforddiant cynefino (rhithwir) ddydd Mawrth 2 Gorffennaf a’r cyfarfod cyntaf ddydd Mercher 3 Gorffennaf

Am restr fanylach gweler y disgrifiad o’r rôl

Mae angen i chi fod wedi cofrestru â’r gymuned gynnwys i gyflwyno ffurflen mynegi diddordeb. Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd sydd heb gofrestru i lenwi ffurflen gofrestru i ddod yn rhan o’r gymuned gynnwys.

Gwybodaeth Gefndir

  • Genomeg yw astudiaeth genynnau person (y genom), gan gynnwys sut mae’r genynnau hynny’n rhyngweithio â’i gilydd ac amgylchedd y person.
  • Geneteg yw astudiaeth genynnau a sut y mae modd eu trosglwyddo, eu hetifeddu.

Mae’r ddau yn chwarae rhan gynyddol bwysig wrth wella iechyd personol a chyhoeddus, gan gyfrannu at ddiagnosis, atal a thrin clefydau a chadw gwyliadwriaeth drostynt.

Cafodd Partneriaeth Genomeg Cymru ei chreu i ddod ag arbenigwyr o wahanol arbenigeddau iechyd at ei gilydd i sicrhau bod cleifion yn elwa ar y profion genetig cywir pan fydd eu hangen arnynt.

Nod Bwrdd Seinio Cleifion a’r Cyhoedd Partneriaeth Genomeg Cymru yw cynrychioli pobl Cymru a gweithio i wella profiadau cleifion a darparu gwasanaethau clinigol a fydd yn galluogi gwell iechyd a lles ar gyfer y boblogaeth.

Beth sydd ei angen?

Mae angen deg o bobl i ddod yn aelodau o’r Bwrdd Seinio Cleifion a’r Cyhoedd. 

Bydd gofyn i chi fynychu sesiwn cynefino a hyfforddiant undydd ddydd Mawrth 2 Gorffennaf (09:30-15:30) a phedwar cyfarfod y flwyddyn. Bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 3 Gorffennaf (09:30-15:30).

Hoffai’r tîm gwrdd â chi os ydych chi’n cyrraedd y rhestr fer (naill ai ar-lein neu dros y ffôn) i drafod y rôl a’r hyn sydd ei angen i fod yn rhan o’r Bwrdd Seinio Cleifion a’r Cyhoedd.

Mae modd dod o hyd i ddisgrifiad o’r rôl ar gyfer y Bwrdd Seinio yma.

Pa dâl sydd ar gael am gymryd rhan?

Bydd Partneriaeth Genomeg Cymru yn:

  • Talu am dreuliau teithio rhesymol yn unol â’i chanllawiau sefydliadau sy’n lletya
  • Cynnig taliad am amser o £25 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth).

I’r rheini sy’n derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth, mae cyngor cyfrinachol ar gael trwy’r Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau ar gyfer Cymryd Rhan.

Fel aelod cofrestredig o’r gymuned, fe fydd cefnogaeth y tîm cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd a rhaglen hyfforddiant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd ar gael i chi.

Pa gefnogaeth arall sydd ar gael?

Hyfforddiant cynefino undydd i gyflwyno’r pwnc, cefnogaeth barhaus a gwybodaeth pan fydd pynciau arbenigol yn codi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais ac yr hoffech chi glywed mwy am y rôl gan aelod presennol o’r Bwrdd Seinio, cysylltwch â’r tîm drwy e-bost ar  GenomicspartnershipWales@wales.nhs.uk a all eich cysylltu ag aelod presennol.

Sut ydw i’n cofrestru fy niddordeb?

Llenwch ffurflen mynegi diddordeb (EOI)

Ydych chi’n ansicr ynghylch sut i lenwi ffurflen mynegi diddordeb neu a hoffech drafod cyfle ymhellach? Yna gall y tîm eich helpu. Llenwch y ffurflen ar-lein neu cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.

Mae mynediad at ffurflenni mynegi diddordeb yn ddiogel ac wedi’i gyfyngu, ac mae’n  cael ei drin yn gyfrinachol.

Y Camau Nesaf

Mae’r tîm Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys yn hysbysebu’r cyfle hwn ar ran arweinydd y cyfle (ymchwilydd a/neu weithiwr proffesiynol arall) i ddod o hyd i aelodau o’r cyhoedd i’w cynnwys yn eu gwaith.  

Byddwn yn adolygu’r ffurflenni mynegi diddordeb ac yn anfon rhai priodol at arweinydd y cyfle (ymchwilydd a/neu weithiwr proffesiynol arall).

Fe fydd naill ai’r tîm neu arweinydd y cyfle (ymchwilydd a/neu weithiwr proffesiynol arall) yn cysylltu â chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom neu ffoniwch 02920 230457.

Categori cyfle:
red

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Budd cyfarfodydd yn digwydd ar-lein drwy Zoom, gyda chyfarfodydd wyneb yn wyneb pan fo angen.

Sefydliad Lletyol:
Partneriaeth Genomeg Cymru

Submit Expression of Interest