David and Anna

Canolfan Genedlaethol newydd £2.5m ar gyfer Ymchwil Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed i gynghori Llywodraeth Cymru

1 Ebrill

Mae tad merch o Ynys Môn a gymerodd ei bywyd ei hun yn drasig pan oedd ond yn 20 mlwydd oed wedi canmol lansio canolfan ymchwil newydd £2.5m, a fydd yn helpu i gefnogi strategaeth newydd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hunanladdiad a hunan-niwed.   

Cymerodd Anna Phillips, a oedd yn fyfyrwraig feddygol yn y brifysgol, ei bywyd ei hun yn 2015. Roedd hi wedi profi anawsterau gyda hunan-niwed a meddyliau hunanladdol yn flaenorol.    

Ar ôl colli ei ferch, datblygodd David, tad Anna, anhwylder galar hir (PGD), sy’n digwydd pan na all rywun stopio meddwl am anwylyd sydd wedi marw dros gyfnod o chwe mis neu fwy, gan achosi trallod mawr i’r unigolyn.   

Dywedodd David fod lansio’r Ganolfan Ymchwil Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed newydd, sy’n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gam hanfodol wrth alluogi ymchwilwyr i ddeall y materion cymhleth sy’n gysylltiedig â hunanladdiad a hunan-niwed a datblygu ymyriadau i gefnogi pobl. Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai’n helpu i leihau cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru yn y pen draw.  

Wrth gofio am y foment pan newidiodd ei fywyd am byth, dywedodd David: “Roedd e’n hollol annisgwyl - fe ges i alwad ffôn wrth y nyrs mewn uned gofal dwys a ddywedodd wrtha’ i fod Anna wedi cymryd ei bywyd ei hun.  

“Mae cael gwybod beth oedd wedi digwydd ar y ffôn - rydych chi’n teimlo’n hollol ddiymadferth, ac yn ddideimlad. Rydych chi newydd glywed y peth ofnadwy yma. Ac yna fe ofynnodd y nyrs a oedd unrhyw un gyda fi? A doedd neb gyda fi ar yr eiliad benodol honno.  

“Mae deall beth sy’n achosi’r materion hyn yn bwysig iawn – fel cymdeithas, yn gyffredinol, dydyn ni ddim yn tueddu i fod yn dda iawn am bethau fel ymyriadau tan ei fod yn bum munud i hanner nos, fel petai, pan mae angen bod gennym ni’r offer wrth law i helpu pobl am chwech o’r gloch y bore.”  

Yn 2019, sefydlodd David Sefydliad Anna Phillips, sy’n defnyddio ecotherapi seiliedig ar natur a gofal gwyrdd i helpu pobl sy’n wynebu heriau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â thrawma. Mae’r elusen hefyd yn gweithio i helpu i wella dealltwriaeth o achosion cymdeithasol hunan-niwed a hunanladdiad.  

Heddiw (1 Ebrill), mae Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy, wedi cyhoeddi lansio strategaeth deng mlynedd newydd i leihau marwolaethau oherwydd hunanladdiad yng Nghymru a darparu cymorth tosturiol i bobl sy’n hunan-niweidio neu sy’n cael meddyliau hunanladdol pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Bydd gwaith y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni’r strategaeth, drwy’r ymchwil y bydd yn ei datblygu a’i swyddogaeth gynghori.   

Ychwanegodd yr Athro Ann John, Cyfarwyddwr y ganolfan: “Mae’r strategaeth genedlaethol newydd yn ei gwneud yn gwbl glir bod atal hunan-laddiad a hunan-niwed yn bwysig yng Nghymru. Mae lansio’r ganolfan genedlaethol yn cydnabod yr angen am ymchwil o ansawdd uchel, tystiolaeth gadarn a dealltwriaeth ystyrlon er mwyn ysgogi ein gweithredoedd a hysbysu gwneuthurwyr polisi. Mae hyn nid yn unig yn cynnwys data ac ymchwil, ond lleisiau’r rhai sydd â phrofiad bywyd hefyd, sy’n ganolog i waith y ganolfan.” 

Cadwch y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Ganolfan drwy gofrestru ar fwletin Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.