Tîm nyrsio ymchwil Hywel Dda.

Byd llawn boddhad nyrsys ymchwil

Bob blwyddyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys (12 Mai), rydym yn dathlu'r gwaith anhygoel y mae nyrsys yng Nghymru yn ei wneud ac yn taflu goleuni ar grŵp arbennig o fewn y proffesiwn nyrsio: nyrsys ymchwil.

Dechreuodd Tracy Lewis, 58 oed, sy’n nyrs ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a rhan o staff cyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ei gyrfa mewn nyrsio gyda dyhead i helpu pobl mewn ffordd ystyrlon. Er iddi fwynhau ei hamser fel nyrs endosgopi, roedd Tracy yn chwilio am rywbeth a oedd yn rhoi mwy o foddhad. Dywedodd Tracy:

Roeddwn i eisiau cyfrannu mwy”

Gwnaeth y dyhead hwn i helpu pobl arwain Tracy at nyrsio ymchwil.

Taith Tracy i ymchwil

Daeth y cyfle cyntaf pan oedd angen cymorth ar ei gŵr, sy’n ymchwilydd ei hun, i gasglu samplau ar gyfer astudiaeth canser yr ysgyfaint - agorodd y prosiect hwn y drws i fyd ymchwil iddi. Gwnaeth Tracy, "wedi'i thanio gan ei phwrpas newydd," gais am swydd nyrs ymchwil. Er gwaethaf yr heriau cychwynnol, roedd Tracy yn barod i groesawu’r llwybr lle y gallai hi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Manteision Nyrsio Ymchwil

"Rydych chi'n cael chwarae rhan yn y broses gyfan, o ddewis astudiaethau i weithio gyda chleifion."

Roedd un o'r astudiaethau mae Tracy yn ei chofio’n benodol, o'r enw ARAMIS, yn cynnwys meddyginiaeth newydd ar gyfer canser y prostad. Nod y cyffur oedd arafu datblygiad y clefyd a gwella ansawdd bywyd cleifion.

Dywedodd Tracy:

"Roedd y canlyniadau'n anhygoel. Roedd y cyffur mor llwyddiannus nes iddo ddod yn arfer safonol.

"Roedd yn rhoi boddhad enfawr gwybod ein bod ni wedi helpu i ymestyn bywydau cymaint o bobl."

Ymchwil yw'r grym sy'n sbarduno newid

Mae Tracy yn tynnu sylw at ran hanfodol nyrsys ymchwil wrth hybu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae eu hymroddiad a'u harbenigedd yn hanfodol ar gyfer datblygu triniaethau newydd a gwella bywydau cleifion.

"Hyd yn oed os nad oes gan astudiaeth ganlyniadau cadarnhaol, mae'n ein helpu ni i symud ymlaen. Er enghraifft, dileu triniaethau diangen."

Mae Tracy wedi gweithio ar astudiaeth ymchwil wnaeth newid triniaeth diolch i ymchwil. Mae astudiaeth START: REACT wedi edrych ar effeithiolrwydd ymyrraeth bresennol ar gyfer anafiadau i'r ysgwydd. Dangosodd y canlyniadau fod peidio â defnyddio'r ymyrraeth yr un mor effeithiol, gan gael gwared ar driniaeth a allai fod yn ddiangen gan arwain at weithdrefnau sy’n amharu llai ar y claf.

"Mae pob darn o ymchwil yn cyfrannu at well gofal iechyd yn y pen draw."

I Tracy, nid gyrfa yn unig yw bod yn nyrs ymchwil - mae'n alwad. Mae'n ymwneud â gwneud gwahaniaeth, ni waeth pa mor fach, a helpu i lywio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol.

“Mae pob astudiaeth o bwys.

Heb ymchwil, byddem ni’n dal yn yr oesoedd tywyll, yn glynu wrth arferion hen ffasiwn heb symud ymlaen."

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gael y newyddion diweddaraf o fyd ymchwil, cyfleoedd ariannu a gwybodaeth ddefnyddiol arall.