brechlyn

Angen cleifion sy'n agored i niwed yn glinigol ledled Cymru ar astudiaeth i effeithiolrwydd pigiad atgyfnerthu COVID-19

8 Chwefror

Gyda'r cyhoeddiad gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Llywodraeth Cymru am y pigiadau atgyfnerthu COVID-19 diweddaraf ar gyfer cleifion sy'n agored i niwed yn glinigol, mae astudiaeth newydd, sydd ar agor heddiw, yn ystyried a all prawf gwrthgyrff ragweld pwy sydd â'r risg fwyaf o ddioddef COVID-19 difrifol.

Bydd prawf gwaed pigiad bys syml i'w wneud gartref dros gyfnod o 12 mis, yn caniatáu i ymchwilwyr ddadansoddi gwrthgyrff ac effeithiolrwydd y pigiad atgyfnerthu ar gyfer cleifion ag ystod eang o gyflyrau meddygol.

Mae astudiaeth genedlaethol Stravinsky y DU, sy'n cael ei harwain yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phrifysgol Caerdydd, yn astudiaeth o bell lle gallai pobl yng Nghymru sydd â'r cyflyrau isod hunangyfeirio ar-lein:

  • Diabetes (Math 1 a 2)
  • Clefydau niwrolegol (Clefyd Parkinson a sglerosis ymledol)
  • HIV
  • Sirosis
  • Cyflyrau anadlol cronig
  • Syndrom Down ac anableddau dysgu.
  • Clefyd cronig yr arennau
  • Methiant y galon
  • Derbynnydd therapi gwrth-ganser systemig e.e. Cemotherapi, radiotherapi neu imiwnotherapi ac eraill

Nid yw brechiadau atgyfnerthu ychwanegol yn cael eu rhoi fel rhan o'r astudiaeth; ymateb gwrthgyrff i driniaeth safonol ar gyfer pobl sy'n agored i niwed yn glinigol sy'n cael ei archwilio.

Dywedodd Dr Lucy Jones, Prif Ymchwilydd y cynllun treialu yng Nghymru:

Yn fy rôl fel clinigwr rwy'n gweld cleifion agored i niwed bob dydd sy'n dal i bryderu am effeithiau COVID-19. Gyda systemau imiwnedd wedi'u hatal, gallai dal y feirws arwain at aros yn yr ysbyty dros nos a chymhlethdodau pellach.

“Efallai y bydd angen triniaeth bellach ar gleifion sydd â systemau imiwnedd wedi’u hatal, ac efallai na fydd gan rai ymateb gwrthgyrff cryf ar ôl cael pigiad atgyfnerthu. Mae'n bwysig iawn deall sut y gall y brechlyn COVID wella cryfder a hyd amddiffyniad gwrthgyrff mewn pobl â chyflyrau meddygol, fel y gallwn ganolbwyntio ein hymdrechion a sicrhau bod ein rhaglen frechlyn mor effeithlon ac effeithiol â phosibl."

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae hon yn astudiaeth bwysig a fydd yn llywio'r rhaglen frechu ar gyfer pobl sy'n byw gydag ystod o gyflyrau iechyd. Lle bynnag rydych chi'n byw yng Nghymru, os oes gennych chi un o'r cyflyrau a restrir, ystyriwch fod yn rhan o'r astudiaeth."

Am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan yn yr astudiaeth, ewch i www.immunology.org/partnerships/stravinsky neu cysylltwch â Stravinsky@contacts.bham.ac.uk