Nodi blaenoriaethau ymchwil i wella mynediad at ofal a chymorth cydgysylltiedig i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal (neu ar ffiniau gofal) ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu, a darparu'r gofal hwnnw

 

Beth yw diben yr arolwg hwn?

Yn yr Hydref, fe wnaethom ni siarad â phobl ifanc a rhedeg arolwg ar gyfer ymarferwyr iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, a’r trydydd sector(elusennau) o ofyn iddynt am eu profiadau, eu mynediad at, a chyflawniad o ofal cydgysylltiedig, a chefnogaeth i blant neu bobl ifanc sydd innau ar ffin gofal 11-25 oed, mewn gofal neu wedi cael profiad o ofal gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad wedi eu diwallu.

Diben gwneud hyn oedd er mwyn darganfod meysydd ymchwil pwysig. Diolch yn fawr i’r rheiny a gymerodd ran!

Fe wnaethom ni roi eich cwestiynau i fewn i gategorϊau, a chynhyrchu rhestr o 28 cwestiwn wedi’u crynhoi.

Mae’r cwestiynau hyn wedi eu nodi yn yr arolwg hwn.Gofynnwn i chi ddewis y rhai sydd bwysicaf i chi.

A fyddech gystal a chymryd rhan yn yr arolwg hwn os ydych:

  • Yn gweitho mewn gwasanaethau sy’n darparu gofal a chefnogaeth (yn cynnwys iechyd, gofal cymdeithasol,iechyd,3ydd sector a’r rhwydwaith mwy eang o gefnogaeth sy’n ymestyn allan) yng Nghymru,â phrofiad o weithio gyda’r grŵp hyn o blant a phobl ifanc. Nid yw sefydliadau  preifat yn cael eu cynnwys.
  • Yn eiriolwr gofal-neu blant a phobl ifanc gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad sydd wedi cael profiad o fod ar ffin gofal.
  • Yn riant neu’n warcheidwad gofal neu ar ffin gofal i blant a phobl ifanc gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu.

Yn dilyn ein grwpiau trafod gyda phlant a phobl ifanc am y cwestiynau hyn, gallant hefyd bleidleisio gan ddefnyddio’r arolwg hwn.

Beth ydyn ni’n gofyn i chi ei wneud?

A fyddech gystal a darllen y rhestr a dewis hyd at 10 cwestiwn yr ydych chi’n meddwl sydd fwyaf pwysig i’r ymchwilwyr eu hateb ar sail eich profiadau a’ch barn chi.

A fyddech gystal a gofyn i bobl eraill gwblhau’r arolwg hwn hefyd os gwelwch yn dda. Rydym yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ymchwilwyr eraill o faterion sydd o bwys i lawer o bobl.

Yw’r arolwg yn gyfrinachol?

Mae’r arolwg yn gyfrinachol. Byddwn ni’n gofyn am ychydig o wybodaeth amdanoch chi er mwyn gallu deall pwy sydd yn cwblhau’r arolwg, ac i wneud yn siwr hefyd ein bod yn clywed yn ol gan ystod eang o bobl.

Wedi cwblhau’r arolwg, byddwn ni’n gofyn i chi a fyddai gyda chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gweithdy terfynol, er mwyn penderfynu ar y 10 prif flaenoriaeth. Byddai hyn yn gollol wirfoddol, ac ni fyddwn yn cysylltu’r ymatebion o’r arolwg gyda’r ffurflen y byddech yn ei chwblhau yn y gweithdy. Am ragor o wybodaeth, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.

Sylwer:

Fe wnaethom ni dderbyn rhai ymatebion i'r arolwg blaenorol nad oedd yn ffitio o fewn sgop y prosiect hwn. Rydym wedi cadw 'rhain, a byddant yn cael eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd megis eu danfon at gydweithwyr polisi yn Llywodraeth Cymru.

Arolwg

 

Sut y gellir eich disgrifio orau? Gwnewch un dewis yn unig.
Ym mha ardaloedd ydych chi’n gweithio (ar gyfer ymarferwyr ac eiriolwyr) neu’n byw yno? (ar gyfer rhieni,gwarchgeidwadwyr,pobl ifanc)
Ar gyfer ymarferwyr ac eiriolwyr yn unig. Ymysg y plant a'r bobl ifanc yr ydych wedi gweithio gyda nhw, ydych chi wedi cael profiad o weithio gydag unrhyw un o'r grwpiau canlynol? (ticiwch bob un sy'n berthnasol)?
Ticiwch y cwestiynau sydd bwysicaf i ymchwil eu hateb—gallwch gyflwyno hyd at 10. Pan fyddwn yn dweud 'gwasanaeth' rydym yn cyfeirio at iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, a'r trydydd sector.