Jessica Bevan gyda dal ei merch fach

Fy nhaith bwydo ar y fron wedi’i phweru gan fod yn rhan o ymchwil

19 Mehefin

Ar ôl dod o hyd i astudiaeth yn chwilio am famau i gymryd rhan, penderfynodd Jess, a oedd yn fam am y tro cyntaf, ymuno a chymryd rhan mewn ymchwil. Gwasanaeth ar draws y DU gyfan yw Bod yn Rhan o Ymchwil, sy’n helpu pobl i ddarganfod a chymryd rhan mewn gwaith ymchwil iechyd a gofal ar draws bron i bob cyflwr iechyd.

Cymerodd Jessica Bevan, 33, technegydd labordy o Abertawe, ran yn astudiaeth ABA-feed, dan arweiniad tîm o fydwragedd arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac wedi’u cefnogi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Fe wnaeth yr astudiaeth hon ar draws y DU gyfan baru mamau a oedd yn dymuno bwydo ar y fron gyda mentor a roddodd gymorth a chyngor cefnogol ychwanegol i’r mamau yn ogystal â’r gofal safonol yr oeddent yn ei dderbyn.

Pam wnaethoch chi ddewis cymryd rhan yn yr astudiaeth?

Dewisodd Jess gymryd rhan yn y treial oherwydd ei dymuniad i gyfrannu at waith ymchwil. Fel gwyddonydd â phrofiad o fioleg a geneteg bywyd gwyllt, mae Jessica yn deall gwerth gwaith ymchwil i ddatblygu gwybodaeth a gwella arferion a gofal bob dydd. Roedd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd bod ag unigolyn ychwanegol i roi cyngor a geiriau o anogaeth o ran bwydo ar y fron.

Beth oedd eich profiad o gymryd rhan yn yr astudiaeth? 

Roedd Jess yn ddiolchgar o gael ei pharu gyda Victoria y cyfaill cefnogol:

"Roedd bod â rhywun wrth law y gallwn gysylltu â hi os oeddwn i wir yn cael trafferthion, yn enwedig yn y dyddiad cynnar, yn wirioneddol wych.”

Cymerodd brofiad ôl-enedigol Jessica dro annisgwyl pan wynebodd ei merch, Trixie, gymhlethdodau iechyd yn fuan ar ôl cael ei geni gan arwain at saib dros dro i’w taith bwydo ar y fron. Parhaodd Victoria, cyfaill cefnogol neilltuedig Jess, i gynnig cyfarwyddyd yn ystod y cyfnod hwn.

Pan aeth Jessica â Trixie adref o’r diwedd, cawsant broblem arall pan ddangosodd Trixie symptomau o alergeddau wrth fwydo ar y fron. Hyd yn oed drwy’r cyfnod hwn o ansicrwydd, parhaodd Victoria i fod yn ffynhonnell o gefnogaeth, gan gynnig gwybodaeth ac adnoddau gwerthfawr i ymateb i’r heriau.

"Gyda chymorth y bydwragedd yn yr ysbyty ac yna ein cyfaill cefnogol, fe wnaethon ni lwyddo. Rwy’n teimlo’n falch ein bod wedi gallu parhau i fwydo ar y fron.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth bobl eraill am gymryd rhan mewn gwaith ymchwil? 

Yn ogystal â galluogi Jessica i wneud dewisiadau cytbwys am sut i barhau i fwydo ei babi, fe wnaeth yr astudiaeth ABA-feed hefyd roi synnwyr o gymuned a dealltwriaeth iddo yn ystod cyfnod pan roedd yn agored i niwed.

"Fe wnes i wir fwynhau cymryd rhan yn yr astudiaeth. Mae pawb yr wyf i wedi siarad â nhw wedi bod yn hyfryd ac yn gynorthwyol ac yn llawn gwybodaeth.”

Ymunwch â Bod yn Rhan o Ymchwil i ddarganfod am amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan neu helpu gyda gwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn eich ardal.