Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Pwrpas

Mae’r cynllun integredig hwn yn cefnogi ymchwilydd iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu ei lwybr arweinyddiaeth ymchwil.

Ar gyfer pwy

Ymchwilwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol ôl-ddoethurol ar unrhyw adeg yn eu gyrfa ymchwil. Mae’n rhaid bod ymgeiswyr wedi ennill eu PhD erbyn adeg y cyfweliad ac ni chaniateir iddynt fod mewn swydd lefel Athro ar adeg y cais.

Cyllid ar gael

Mae’r gymrodoriaeth yn ddyfarniad hyfforddi unigol sy’n cynnig cyllid ar gyfer costau cyflog yr unigolyn am hyd at 3 blynedd cyfwerth ag amser llawn (WTE) a chostau prosiect ymchwil a rhaglen hyfforddi a datblygu priodol.

Pryd

Cynllun blynyddol yw hwn ac mae’r alwad nesaf wedi’i threfnu ar gyfer mis Hydref 2023.

 

Opens: 10/2024

Cysylltu â ni

Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau neu os byddwch chi’n cael problemau wrth baratoi eich cynnig, cyfeiriwch at y dogfennau canllaw ar yr alwad a ddarperir. Gallwch chi hefyd gysylltu â’r tîm drwy e-bost: Research-Faculty@wales.nhs.uk