“Fe ddywedon nhw eu bod nhw gymaint yn hapusach gartref”: astudiaeth ymchwil arennol Cymru yn ennill ein Gwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd 2020
Enillydd ein Gwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd 2020 ydy astudiaeth Opsiynau a Dewisiadau Dialysis.
Dyma’r bedwaredd flwyddyn o’r wobr hon, sy’n dathlu gwaith rhagorol cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr enillydd fel rhan o gynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a gynhaliwyd yn rhithiol am y tro cyntaf ar 7 Hydref 2020.
Meddai Dr Gareth Roberts, arenegwr a phrif ymchwilydd ar gyfer yr astudiaeth hon: “Buon ni’n gweithio’n galed i gynnwys y cyhoedd a chleifion o’r cychwyn cyntaf ac yna drwy gydol yr ymchwil. Mae’r ffaith bod y wobr hon yn cydnabod yr ymdrechion hynny’n wirioneddol wych. Mae’r tîm wrth eu boddau.”
Ynglŷn â’r astudiaeth
Nod yr ymchwil oedd deall sut roedd pobl yng Nghymru sydd â chlefyd cronig yr arennau yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth yn y dyfodol. Yn benodol, roedd y tîm eisiau dysgu mwy ynglŷn â pham fod cymaint o bobl yn dewis cael dialysis yn yr ysbyty pan roedd triniaeth gartref yn cynnig mwy o fuddion.
Cynhaliwyd yr astudiaeth amlddisgyblaeth Cymru-gyfan hon dros ddwy flynedd gan gynnwys llawer o sefydliadau ac unigolion ledled Cymru. Roedd y tîm yn cynnwys academyddion o Uned Ymchwil Arennol Cymru (rhan o’n cymuned ymchwil) a Phrifysgol Bangor, ochr yn ochr â staff iechyd a gofal cymdeithasol, partneriaid elusennol a phartneriaid yn y diwydiant, a chomisiynwyr gwasanaeth.
Meddai David Fellows, cynrychiolydd cleifion ac aelod craidd o’r tîm: “Roedd cynnwys y cleifion a’r cyhoedd yn allweddol i’r astudiaeth yma gan fod y llwybrau i driniaethau cael aren newydd yn gymhleth.
“Roedd eu profiadau a’u barn nhw ynglŷn â sut y mae gwasanaeth gwych a chynaliadwy yn edrych yn hanfodol i ni gan ei fod yn golygu y gallen ni weld yn union lle roedd hi’n bosibl gwneud newidiadau.”
Hapusach gartref
Meddai Mrs Gail Williams, Nyrs Arennol Arweiniol ar gyfer Cymru: “Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â chlefyd cronig yr arennau’n dewis cael dialysis mewn uned neu mewn ysbyty. Fodd bynnag, pan ddywedon ni hyn wrth gleifion a oedd yn cael dialysis gartref, doedden nhw ddim yn gallu credu’r peth.
“Roedd y cleifion a oedd yn cael dialysis gartref yn teimlo mor dda ac mor hyderus ynglŷn â rheoli eu gofal eu hunain fel nad oedden nhw’n gallu dychmygu mynd yn ôl i gael dialysis yn yr ysbyty. Dywedon nhw eu bod nhw gymaint yn hapusach gartref.
“Dywedon nhw wrthon ni fod dialysis gartref wedi rhoi eu bywyd yn ôl iddyn nhw gan nad oedden nhw’n gorfod mynd i’r ysbyty am driniaeth sawl gwaith yr wythnos.”
Roedd hi’n glir mai gofal gartref oedd yr opsiwn gorau i gleifion yn aml. Mae hefyd yn wasanaeth mwy cynaliadwy i’r GIG. Felly pam nad oedd mwy o gleifion yn ei ddewis?
Meddwl yn greadigol
Meddai Dr Leah Mc Laughlin, Swyddog Ymchwil: “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn estyn allan at bobl newydd a'u cael nhw i gymryd rhan mewn ymchwil. Rydw i eisiau siarad â chleifion na fyddech chi bob amser o bosibl yn clywed oddi wrthyn nhw. Fel ymchwilydd, mae gen i ddiddordeb mawr mewn pobl ac rydw i’n awyddus i wybod beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud.”
Cysylltodd Leah â grwpiau cymunedol ac elusennau yn gofyn a allai hi fynychu eu digwyddiadau a siarad â phobl yno ynglŷn â’r ymchwil. Mynychodd y tîm lawer o ddigwyddiadau cymunedol, gan gynnwys dosbarth coginio pontio’r cenedlaethau ar gyfer pobl o gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig dan arweiniad yr elusen Race Equality First.
Meddai Leah: “Nod y digwyddiad hwnnw oedd dod â’r bobl iau a hŷn at ei gilydd trwy gyfrwng bwyd. Rydyn ni’n gwybod bod pobl y mae eu harennau’n methu yn tueddu i fod yn hŷn, felly fe wnes i gymryd rhan yn y coginio ac yna gofyn iddyn nhw am eu barn ynglŷn â’r astudiaeth ymchwil hon.
“Roedd yn y cyfnod sefydlu felly roedden ni’n gofyn am eu mewnbwn ar bethau fel dogfennau ar gyfer cleifion, strategaethau cyfathrebu a ffyrdd i ymgysylltu’n well â grwpiau anodd i ymgysylltu â nhw.”
Cyflwynodd pandemig COVID-19 nifer o heriau i’w cynlluniau ar gyfer cynnwys y cleifion a’r cyhoedd. Roedd yn rhaid i’r tîm ohirio dau ddigwyddiad yn y cnawd ym mis Mehefin ac yn hytrach newid i weminarau rhithwir a chyfarfodydd Zoom.
Meddai Leah: “Mae peidio â chael cysylltiad wyneb yn wyneb mwyach yn gwneud pethau’n fwy anodd i ni. Fedrwn ni ddim jest troi i fyny i ddigwyddiadau yn y gymuned. Mae’n rhaid meddwl yn fwy creadigol ynglŷn â sut i gyrraedd pobl nawr. Er enghraifft, gydag astudiaeth newydd rydw i’n gweithio arni rydyn ni’n ceisio cyrraedd pobl trwy grwpiau Facebook”.
Datgelu’r rhwystrau
Fel rhan o astudiaeth Opsiynau a Dewisiadau Dialysis, bu’r tîm ymchwil yn dadansoddi data’r GIG, yn adolygu’r addysg cyn dialysis, ac yn cynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws â chleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol.
Meddai Leah: “Gwnaeth ein sgyrsiau ddangos bod y gwasanaeth cyfan ar y funud wedi’i gynllunio o gwmpas modelau gofal acíwt, hynny yw, yr ysbyty. Pan fyddwch chi’n dychmygu dialysis am y tro cyntaf rydych chi’n gweld eich hun mewn ysbyty ac yna allwch chi ddim dychmygu ei gael yn unrhyw le arall.
Roedd y tîm eisiau newid hyn fel bod mwy o gleifion yn gallu dychmygu eu hunain yn cael dialysis gartref petai hynny’n iawn ar eu cyfer nhw. Ar sail darganfyddiadau eu hymchwil, cydgynhyrchodd y tîm weledigaeth ar gyfer gwasanaethau arennol GIG Cymru cynaliadwy, gan gynnwys llwybr gwasanaeth newydd o’r enw ‘Llwybrau at ddialysis gartref’.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro noddodd yr astudiaeth hon a chafodd ei hariannu drwy’r cynllun Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd.
Ymrwymiad i gynnwys y cyhoedd
Fel rhan o bartneriaeth DU-eang, bu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n helpu i ddatblygu Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd, sy’n esbonio ffyrdd ymarferol i ymchwilwyr allu cynnwys y cyhoedd yn eu hymchwil ac yn rhoi’r meini prawf allweddol ar gyfer y wobr hon.
Dywedodd y panel beirniadu fod astudiaeth Opsiynau a Dewisiadau Dialysis yn dangos “tystiolaeth glir” bod pob agwedd ar y Safonau wedi cael sylw fel rhan o’r ymchwil.
“Roedd y cais hwn yn wych gan ei fod yn dangos arferion arloesol i gefnogi a chyflenwi cynnwys y cyhoedd fel rhan graidd o’r astudiaeth ymchwil. Roedd yr ymrwymiad i gynnwys pobl trwy gydol y gwaith o lywodraethu a rheoli’r ymchwil wedi gwneud argraff ar y panel.”
Eisiau gwybod mwy?
Gallwch chi weld mwy am effaith yr astudiaeth ar wefan Uned Ymchwil Arennol Cymru.
Gallwch chi glywed sylwadau cleifion a oedd yn rhan o astudiaeth Opsiynau a Dewisiadau Dialysis yn y fideo isod.
Roedd y cynigion a dderbyniwyd eleni wedi gwneud cryn argraff ar y panel. Gwnaethon ni gyhoeddi pwy oedd yn ail a pha ddwy astudiaeth oedd yn derbyn cymeradwyaeth uchel ar gyfer ein Gwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd 2020.
Yn ail:
Prifysgol Abertawe
Atal canser ymysg Sipsiwn, Roma neu Deithwyr: prosiect ymchwil gyfranogol
Cymeradwyaeth uchel:
Prifysgol Caerdydd
Canolfan Treialon Ymchwil
Os hoffech chi ein cefnogaeth i gynnwys cleifion, eu teuluoedd neu aelodau o’r cyhoedd yn eich ymchwil, cysylltwch â’n tîm cyfathrebu, ymgysylltu a chynnwys.
First published: Cyhoeddwyd gyntaf: Rhagfyr 2020
Partneriaid astudio Opsiynau ac Dewisiadau Dialysis