Polisi Preifatrwydd

Hysbysiad preifatrwydd y wefan

Sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth y mae ymchwiliechydagofalcymru.org yn ei chasglu.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae gwefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cael ei rheoli gan Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Rheoliad cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU

Dan y Rheoliad Cyffredinol, mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu mynnu mewn perthynas â’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Eich ffordd o ryngweithio â’r wefan hon

Pan fydd rhywun yn ymweld ag ymchwiliechydagofalcymru.org rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, sef Google Analytics, i gasglu gwybodaeth rhyngrwyd safonol a manylion am batrymau ymddygiad ymwelwyr. Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu’n gwbl ddienw yn unig fel nad oes modd adnabod unrhyw un yn unigol. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod pwy sy’n ymweld â’n gwefan, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hyn ychwaith. Os byddwn eisiau casglu gwybodaeth y mae modd adnabod rhywun yn bersonol ohoni trwy ein gwefan, byddwn yn agored am hyn. Wrth gasglu gwybodaeth bersonol, byddwn yn nodi hynny’n glir ac yn esbonio beth rydym yn bwriadu ei wneud â hi.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google a Thelerau Gwasanaeth Google i gael gwybodaeth fanwl.

Peiriant chwilio

Mae ymholiadau a chanlyniadau chwiliadau’n cael eu logio’n ddienw i’n helpu i wella ein gwefan a’n cyfleusterau chwilio. Nid yw Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nac unrhyw drydydd parti’n casglu unrhyw ddata sy’n benodol am y defnyddiwr.

Bwletinau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, sef Mailchimp, i anfon ein bwletinau wythnosol. Rydym yn casglu ystadegau ynghylch y negeseuon e-bost sy’n cael eu hagor a nifer y cliciau trwy ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant i’n helpu i fonitro a gwella ein bwletinau.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch Ddatganiad GDPR Mailchimp. Mae eu Polisi Preifatrwydd cyffredinol hefyd i’w weld yma.

Ymgynghoriadau ac offer arolygon ar-lein

Rydym yn casglu gwybodaeth trwy ddefnyddio offeryn arolygu mewnol. Mae’r holl ddata a gesglir trwy ddefnyddio’r offeryn hwn yn bodloni canllawiau GDPR y DU a defnyddir nhw yn unig at y diben y datgenir eu bod yn cael eu casglu ar ei gyfer.

Pobl sy’n cysylltu â ni trwy’r cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, sef AgoraPulse, i reoli ein rhyngweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Os y byddwch yn anfon neges breifat neu uniongyrchol atom trwy’r cyfryngau cymdeithasol, bydd AgoraPulse a’r sefydliad cyfryngau cymdeithasol hwnnw yn ei storio. Ni fydd AgoraPulse, nac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn rhannu’r neges ag unrhyw sefydliadau eraill.

Mae gan y sefydliadau cyfryngau cymdeithasol unigol eu polisi preifatrwydd eu hunain y gellir ei weld ar eu gwefannau.

Dolenni i wefannau eraill

Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r dolenni yn y wefan hon sy’n mynd â’r defnyddiwr i wefannau eraill. Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw.

Cwcis

Manylion am y cwcis ar ymchwiliechydagofalcymru.org

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gosod fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon.

Bydd adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o’r wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y byddwn yn ei defnyddio a dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu ag unrhyw un arall.

Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 18 Awst 2023.


Gwybodaeth bellach

Os oes gennych ragor o gwestiynau ynglŷn â sut y bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’ch data, yna ysgrifennwch atom gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:

ymchwiliechydagofal@wales.nhs.uk

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Pont-y-castell 5
15-19 Heol Ddwyrain y Bontfaen
Caerdydd
CF11 9AB

Daw Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru dan gylch gwaith Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru, a gellir cysylltu ag ef/ â hi yn: 

Swyddog Diogelu Data 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ 
E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales