Yr Athro William Gray
Uwch Arweinydd Ymchwil
Ngholeg Prifysgol Cork, Iwerddon, lle y llwyddodd hefyd i gyflawni ei MD mewn trawsblannu nerfau echddygol. Cwblhaodd ei waith ymchwil ôl-ddoethuriaeth yn Southampton a Bonn, lle y datblygodd ei ddiddordeb mewn bôn-gelloedd niwral oedolion. Sefydlodd grŵp ymchwil ar niwrogenesis yn Southampton a chafodd ei benodi i Gadair Niwrolawdriniaeth y Brifysgol yn 2006. Symudodd i fod yn Gadair Niwrolawdriniaeth Swyddogaethol yng Nghaerdydd yn 2011, lle y sefydlodd Uned Ymchwil Biofeddygol Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN), ac ef yw cyfarwyddwr yr uned hon hefyd.
Ymhlith ei ddiddordebau clinigol mae llawdriniaeth epilepsi a sut y cyflenwir celloedd a genynnau i’r ymennydd dynol i’w hatgyweirio. Mae ei waith grŵp ymchwil yn ymestyn o astudio bôn-gelloedd yn y labordy, i astudiaethau ymddygiad a delweddu gwybyddol ymysg cleifion a thrawsblannu bôn-gelloedd niwral a datblygu dyfeisiau ar gyfer atgyweirio’r ymennydd ym meysydd Clefyd Huntington ac epilepsi.
Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn effeithiau’r system imiwnedd gynhenid ar fôn-gelloedd niwral mewndarddol ac wedi’u trawsblannu, a datblygu dyfeisiau cyflenwi newydd ar gyfer therapïau celloedd a genynnau mewn cleifion.