Penodi Cyfarwyddwr i Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd Cymru
22 Ionawr
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi penodi'r Athro Adrian Edwards yn Gyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd Cymru.
Mae'r ganolfan sydd werth £3 miliwn, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn cael ei chreu ar ran Llywodraeth Cymru i ddefnyddio canfyddiadau ymchwil ledled y DU a’r byd i ateb cwestiynau allweddol a chynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru. Gallai hyn gynnwys mynd i'r afael ag effeithiau hir dymor y pandemig ac ymchwilio i heriau fel rheoli heintiau a chadw pellter cymdeithasol, canlyniadau unigedd ac effeithiau'r amhariad economaidd ar iechyd.
Mae disgwyl i’r Ganolfan Dystiolaeth newydd, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, agor yn ystod yr wythnosau nesaf gyda thîm ymroddedig o ymchwilwyr allweddol. Bydd y ganolfan yn galluogi mynediad cyflym i ganfyddiadau a thystiolaeth ymchwil ryngwladol allweddol, er mwyn i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru allu gwneud penderfyniadau. Bydd hefyd yn caniatáu i astudiaethau ymchwil cyflym a phenodol gael eu cynnal ar lefel Cymru, gan gynnwys ar COVID hir.
Bydd yr Athro Edwards, sy’n athro ymarfer cyffredinol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn feddyg teulu rhan-amser yng Nghwm-brân, yn goruchwylio'r ganolfan, a fydd yn defnyddio arbenigedd academyddion a gwyddonwyr ledled Cymru.
Mae gan yr Athro Edwards 25 mlynedd o brofiad ym maes ymchwil ac mae'n Gyfarwyddwr Canolfan PRIME Cymru, canolfan Cymru gyfan ar gyfer ymchwil gofal sylfaenol a brys. Mae ei brif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys ansawdd a diogelwch gofal iechyd a gweithredu penderfyniadau a rennir.
Dywedodd yr Athro Adrian Edwards:
"Mae angen i ni ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth wrth reoli'r pandemig. Mae angen i ni hefyd ddeall effaith y pandemig ar y systemau darparu iechyd a gofal ledled y wlad a sut yr ydym yn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion iechyd ac anghenion ehangach cymunedau a phobl yng Nghymru.
"Y flaenoriaeth gyffredinol yw i ymchwil gael ei chynnal yn gyflym ond yn drylwyr, ei chyfuno a'i gwneud ar gael ac yn weithredol i glinigwyr, y cyhoedd, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill. Mae'r hyn a welwn yn yr ail don bellach yn gwneud hyn yn bwysicach ac yn fwy brys."
Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd sbon Cymru yn adeiladu ar waith presennol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sydd wedi bod wrth wraidd yr ymdrech ymchwil ryngwladol, gan gydgysylltu tri threial brechlyn hyd yma yn ogystal â nifer o astudiaethau iechyd cyhoeddus brys mewn partneriaeth â'r GIG a phrifysgolion ledled Cymru.
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
"Mae ymchwil wedi bod yn ganolog i ymdrin â heriau'r pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf ac erbyn hyn mae angen i ni ganolbwyntio'n benodol ar ddod ag ymchwil o bob rhan o'r byd er mwyn ei defnyddio i fynd i'r afael â heriau tymor hwy COVID-19 i Gymru a'i effaith ar ein bywydau ni i gyd.
"Mae'r Athro Adrian Edwards eisoes yn chwarae rhan flaenllaw yn ein cymuned ymchwil yng Nghymru ac mae ganddo gyfoeth o brofiad academaidd ac yn y GIG i arwain y ganolfan bwrpasol newydd hon."
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg:
"Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu ac yn adeiladu ar y gwaith presennol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wrth ymateb i bandemig COVID-19, sydd wedi cynnwys treialon brechlynnau ac astudiaethau ymchwil eraill.
"Bydd Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd Cymru yn galluogi rhannu tystiolaeth ymchwil yn gyflym ac yn hawdd ar draws Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a gofal cymdeithasol. Bydd yn golygu y gall staff rheng flaen ddarparu'r gofal a'r triniaethau gorau, wrth i bobl wella a dysgu ymdopi ag effeithiau hirdymor y pandemig ar eu hiechyd meddwl a chorfforol."
I gael rhagor o wybodaeth am yr holl astudiaethau ymchwil cysylltiedig sy'n weithredol, neu sydd wedi'u sefydlu, yng Nghymru ewch i ymchwil COVID-19 yng Nghymru