Canfod bod dau wrthfiotig cyffredin yn aneffeithiol yn erbyn COVID-19
21 Chwefror
Mae astudiaeth ledled y DU wedi dangos nad yw dau wrthfiotig a ragnodir yn aml, azithromycin a doxycycline, o unrhyw fudd i gleifion sy’n hŷn na 50 mlwydd oed ac sy’n cael eu trin am COVID-19 gartref.
Dan arweiniad Prifysgol Rhydychen ac wedi’i gyd-gysylltu yng Nghymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae PRINCIPLE (Platform Randomised trial of INterventions against COVID-19 In older peoPLE) yn astudiaeth glinigol gan Brifysgol Rhydychen i ddod o hyd i driniaethau COVID-19 i bobl dros 50 oed, y gellid eu cymryd gartref.
Ar ôl adolygu dadansoddiadau dros dro data azithromycin a doxycycline, fe wnaeth Pwyllgor Llywio’r Treial annibynnol gynghori ymchwilwyr y treial, a daethant i’r casgliad nad oes effaith fuddiol i gleifion dros 50 mlwydd oed sy’n cael eu trin gyda’r naill wrthfiotig gartref yng nghyfnod cynnar COVID-19.
Dywedodd Yr Athro Chris Butler, Cyd-Arweinydd y treial PRINCIPLE ym Mhrifysgol Rhydychen a meddyg teulu ym Meddygfa Glan Cynon yn Aberpennar:
“Wrth inni gwblhau’r dadansoddiad o’r ystod lawn o ganlyniadau’r astudiaeth, ac mewn gwahanol grwpiau o gleifion, mae ein canfyddiadau yn dangos nad oes gan gwrs tri diwrnod o azithromycin na chwrs saith diwrnod o doxycycline unrhyw fudd clinigol pwysig o ran yr amser mae’n ei gymryd i deimlo’n holliach, ac felly ni fydd yn helpu y rhan fwyaf o gleifion sydd â COVID-19 yng nghyfnod cynnar eu salwch.
“Mae'r treial PRINCIPLE wedi tyfu'n gydweithrediad cymunedol ledled y DU i ddod o hyd i driniaethau effeithiol ar gyfer COVID-19 y gellir eu defnyddio yn y gymuned. Mae angen brys ledled y byd am driniaethau a all gyflymu gwellhad ac atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty.”
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cydgysylltu ymchwil ac yn sefydlu astudiaethau yn genedlaethol yng Nghymru:
“Mae'r un mor bwysig tynnu sylw at ba driniaethau ar gyfer COVID-19 nad ydynt yn gweithio yn ogystal â'r rhai sydd yn gweithio. Mae canlyniadau dros dro’r treial hwn yn rhoi tystiolaeth werthfawr i glinigwyr i lywio eu triniaeth ar gyfer cleifion â COVID-19 yn y gymuned, gan sicrhau nad yw gwrthfiotigau yn cael eu rhagnodi pan nad oes eu hangen.”
Mae’r treial hwn ar agor ledled Cymru i bobl dros 50 mlwydd oed sydd â rhai cyflyrau iechyd penodol, neu unrhyw un dros 65 mlwydd oed. Gall y rheini sydd â symptomau’r coronafeirws, neu haint COVID-19 wedi’i gadarnhau, ymuno’n hawdd o gartref ar-lein, dros y ffôn neu drwy eu meddygfa o unrhyw le yng Nghymru.
Mae hwn yn un o dri threial platfform cenedlaethol ar gyfer triniaethau COVID-19 ac mae’n cyd-fynd â RECOVERY a REMAP-CAP, sydd hefyd yn cael eu cynnal yng Nghymru.
Mae mwy o wybodaeth yn ymchwil COVID-19 yng Nghymru.
Caiff PRINCIPLE ei arwain o’r Uned Treialon Clinigol Gofal Sylfaenol yn Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Adran Gofal Sylfaenol Nuffield Prifysgol Rhydychen. Caiff PRINCIPLE ei gynorthwyo gan rwydwaith eang o gartrefi gofal, fferyllfeydd, canolfannau GIG 111, ysbytai ac 1,016 meddygfa ledled Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r treial wedi’i integreiddio gyda Chanolfan Ymchwil ac Arolygaeth RCGP-Rhydychen ac mae’n gweithio’n agos gyda Rhwydwaith Ymchwil Glinigol NIHR, DigiTrials GIG, Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Ymchwil GIG Yr Alban a’r Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon. Mae PRINCIPLE yn parhau i archwilio effeithiau triniaeth yn y gymuned gyda budesonide a corticosteroid sy’n cael eu mewnanadlu, sydd hefyd yn wrthlidiol, ac o bosibl yn wrthfeirysol.
Caiff PRINCIPLE ei ariannu gan Ymchwil ac Arloesi y DU a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol drwy’r Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd yn rhan o gronfa ymateb ymchwil cyflym Llywodraeth y DU.