Ymchwilwyr yng Nghymru’n cyfrannu at astudiaeth sy’n darganfod y gallai cyffur ar gyfer arthritis helpu i achub 1 ym mhob 25 o gleifion sy’n ddifrifol wael â COVID-19
22 Chwefror
Mae'r treial RECOVERY (Randomised Evaluation of COVID-19 Therapy), sy'n cael ei gynnal mewn saith bwrdd iechyd ledled Cymru, wedi canfod y gallai cyffur a ddefnyddir i drin arthritis achub 1 o bob 25 o gleifion sydd yn ddifrifol wael.
Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod y driniaeth wrthlidiol, tocilizumab, yn byrhau'r amser tan fod cleifion yn cael eu rhyddhau'n llwyddiannus o'r ysbyty ac yn lleihau'r angen am beiriant anadlu mecanyddol.
Mae’r treial RECOVERY, sy'n cynnwys timau ymchwil yn y byrddau iechyd yng Nghymru, wedi bod yn profi amrywiaeth o driniaethau posibl ar gyfer COVID-19 ers mis Mawrth 2020. Ychwanegwyd Tocilizumab, cyffur mewnwythiennol a ddefnyddir i drin arthritis rhiwmatoid, i'r treial ym mis Ebrill 2020 ar gyfer cleifion â COVID-19 a oedd angen ocsigen ac a oedd â thystiolaeth o lid.
Dywedodd Dr Angharad Davies, Arweinydd Arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar Heintiau, sydd hefyd yn cynrychioli Cymru ar grŵp Iechyd Cyhoeddus Brys y DU, sy'n adolygu protocolau ymchwil treial clinigol ar gyfer blaenoriaethu:
"Mae hwn yn gam sylweddol arall ymlaen o ran dod o hyd i driniaethau effeithiol ar gyfer y frwydr yn erbyn COVID-19. Mae'n newyddion da iawn, oherwydd mae'n golygu bod gennym ni driniaeth arall erbyn hyn y gwyddom ei bod yn cynyddu cyfraddau goroesi cleifion yn yr ysbyty sydd â COVID-19 difrifol, ac sydd hefyd yn helpu cleifion i fynd adref o'r ysbyty yn gynharach. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd o wella'r modd y caiff y clefyd hwn ei drin ar gyfer cleifion sy'n mynd yn sâl, yn ogystal â brechlynnau.
"Mae timau ymchwil a staff byrddau iechyd ledled Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i helpu i wneud i hyn ddigwydd, yn rhan o ymdrech ymchwil enfawr sy'n parhau. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt hwy ac i'r holl gleifion yma sydd wedi cymryd rhan yn yr astudiaethau. Heb iddyn nhw gymryd rhan ni fyddai'n bosibl dod o hyd i atebion am ba driniaethau sy'n effeithiol."
Dywedodd Brendan Healy, Prif Ymchwilydd treial RECOVERY ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
"Po fwyaf y dystiolaeth sydd gennym ni am driniaethau posibl, y mwyaf y gallwn helpu’r holl gleifion sydd â COVID-19.
"Rydym ni’n gwybod erbyn hyn y gall tocilizumab fod yn llesol i gleifion â lefelau ocsigen isel a llid sylweddol. Diolch i'r ymchwil hwn, gall y cyffur hwn bellach ddod yn ddewis triniaeth safonol ochr yn ochr â'r steroid dexamethasone, y mae'r treial RECOVERY eisoes wedi dangos ei fod yn achub bywydau."
Daeth recriwtio i’r gangen tocilizumab i ben ar 24 Ionawr 2021 oherwydd, ym marn Pwyllgor Llywio y treial, roedd digon o gleifion wedi'u cofrestru i weld pa un a oedd gan y cyffur fudd ystyrlon ai peidio.
Dyrannwyd cyfanswm o 2,022 o gleifion ar hap i dderbyn tocilizumab drwy arllwysiad mewnwythiennol ac fe'u cymharwyd â 2,094 o gleifion a ddyrannwyd ar hap i ofal arferol yn unig. Roedd 82% o gleifion yn cymryd steroid systemig megis dexamethasone.
Ym mis Mehefin 2020, canfu'r treial RECOVERY fod y steroid dexamethasone sydd yn rhad ac ar gael yn eang yn lleihau marwolaeth cleifion sydd â COVID-19 difrifol. Daeth hyn yn gyflym yn rhan o’r gofal safonol a roddir i bob claf o'r fath. Gwelwyd yn amlwg bod manteision tocilizumab yn ychwanegol i’r hyn a geir drwy steroidau.