nyrs yn chwistrellu cyfranogwr gyda brechlyn

Dros filiwn o gyfranogwyr yn rhan o ymchwil COVID-19 y DU erbyn hyn

23 Mawrth

Mae dros filiwn o bobl wedi cymryd rhan mewn ymchwil COVID-19 erbyn hyn ledled y DU gan gynnwys dros 36,000 o gyfranogwyr yng Nghymru sydd wedi bod yn rhan o 114 o astudiaethau o dan arweinyddiaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Yn ystod y 12 mis diwethaf mae cymuned ymchwil Cymru wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi datblygiad nifer o frechlynnau, yn ogystal â nodi triniaethau, diagnosisau a phrofion newydd ar gyfer COVID-19.

Mae'r gamp ryfeddol hon, a gyflawnwyd gan aelodau o'r cyhoedd, staff y GIG, timau ymchwil, rheoleiddwyr, cwmnïau gwyddorau bywyd a llunwyr polisi, wedi galluogi ymchwil arloesol i feddyginiaethau therapiwtig fel dexamethasone a tocilizumab, darparu’r brechlyn Rhydychen/AstraZeneca, a mwy. Mae astudiaethau platfform arloesol fel RECOVERY, PRINCIPLE a REMAP-PAC i gyd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r ddealltwriaeth fyd-eang o COVID-19.

Mae'r darganfyddiadau hyn wedi gwella canlyniadau yn sylweddol i bobl sy'n cael y feirws, yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o fynd yn sâl iawn a gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty. Heb gymorth mor sylweddol gan y cyhoedd, ni fyddai'r ymchwil hanfodol hwn wedi bod yn bosibl.

I gyd-fynd â'r cyhoeddiad am filiwn o gyfranogwyr, mae ymgyrch 'diolch' #ResearchVsCovid ledled y DU yn cael ei lansio heddiw i ddathlu ymdrechion cyfranogwyr, ymchwilwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am gymryd rhan mewn ymchwil COVID-19. Anogir pobl i ymuno drwy dalu eu diolchiadau eu hunain i unrhyw un y maen nhw’n ei adnabod sydd wedi bod yn ymwneud ag ymchwil COVID mewn rhyw ffordd.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae ymchwil yn bwysicach nag erioed o’r blaen ac mae'r frwydr yn erbyn coronafeirws wedi ei blaenoriaethu ym meddyliau pob un ohonom ni. Mae'r system iechyd a gofal yng Nghymru wedi ymateb yn wych drwy ddarparu ymchwil i driniaethau ar gyfer COVID-19 a datblygu brechlynnau, yn ogystal â rheoli'r pandemig yn effeithiol ar gyflymder a graddfa sy'n ddigynsail. Mae'n bwysig cydnabod pa mor bell yr ydym ni wedi dod, ac ni ellid bod wedi gwneud hyn heb y bobl a gamodd ymlaen i gyfrannu at yr astudiaethau a gwneud yr ymchwil yn bosibl."

Fe wnaeth Gwawr Evans, rheolwr cyffredinol cynorthwyol ar gyfer gofal wedi’i drefnu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gymryd rhan yng nghynllun treialu brechlyn Prifysgol Rhydychen / Astrazeneca a gynhaliwyd o fewn y bwrdd iechyd. Dywedodd: "Rwy'n credu bod ymchwil yn bwysig yn enwedig mewn meddygaeth. Mae gwybod fy mod i wedi bod yn rhan o gynllun treialu brechlyn Rhydychen yn gwneud i mi deimlo'n falch, pan eich bod yn clywed amdano yn y newyddion rwy'n teimlo bod gennyf gysylltiad personol ag ef, felly nid yw’n derm rhyfedd, mae'n rhywbeth yr wyf i wedi bod yn rhan ohono ac mewn ffordd fach wedi cyfrannu ato."

Dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog Ymchwil a Datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol: "Mae ymchwil wedi darparu pelydr o obaith yn ystod y pandemig hwn. Rwyf mor falch o ymdrechion ein holl staff gofal iechyd, timau ymchwil, cleifion ac aelodau o'r cyhoedd sydd wedi bod yn rhan o nifer o astudiaethau Covid-19 ledled Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi helpu i nodi triniaethau i wella canlyniadau i'r cleifion mwyaf sâl ac wedi arwain at ddarganfod y brechlynnau effeithiol sy'n achub bywydau heddiw, a hoffwn ddweud 'diolch o galon' wrthyn nhw i gyd.'