Graffig dogfen weledigaeth gyffredinol

Llywodraeth y du yn nodi gweledigaeth fentrus ar gyfer dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol

27 Mawrth

  • Cryfhau arbenigedd ymchwil enwog y DU fel arweinydd byd-eang wrth ddylunio a chyflenwi ymchwil

  • Gweledigaeth uchelgeisiol i ddatgloi gwir botensial ymchwil gan roi cleifion a'r GIG wrth galon ymchwil

  • Gan ddefnyddio'r gwersi o COVID-19 i adeiladu'n ôl yn well, bydd y llywodraeth yn creu amgylchedd ymchwil sy'n canolbwyntio ar y claf, o blaid arloesi ac wedi'i alluogi'n ddigidol.

Disgwylir i gleifion, clinigwyr ac ymchwilwyr ledled y DU elwa o'r weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol yn y DU wrth i'r llywodraeth geisio creu ymchwil mwy effeithlon; ymchwil mwy amrywiol a hygyrch; ac ymgorffori ymchwil yn y GIG.

Mae Achub a Gwella Bywydau: Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol yn y DU, a gyhoeddwyd heddiw ac a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig, yn nodi sut y byddwn yn darparu ymchwil cyflymach, mwy effeithlon a mwy arloesol - o symleiddio prosesau costio, contractio a chymeradwyo i beilot adolygiad moeseg cyflym yr HRA, sy'n ceisio haneru'r amser a gymerir i roi barn derfynol ar geisiadau ymchwil.

Gan ddefnyddio arfer gorau, bydd cymryd rhan mewn ymchwil yn dod yn fwy hygyrch, gan gynyddu amrywiaeth a chaniatáu i fwy o bobl ledled y DU gyfan gymryd rhan. Gan weithio gyda Chanolfannau Rhagoriaeth, fel y Ganolfan Iechyd BME yng Nghaerlŷr, bydd mwy o gefnogaeth i ymchwil mewn cymunedau mwy amrywiol sydd heb wasanaethau digonol, a dulliau arloesol fel treial clinigol Dare2Think Prifysgol Birmingham, sydd wedi defnyddio eConsent o bell a dulliau digidol dilynol i recriwtio 3,000 o gleifion â ffibriliad atrïaidd ledled Lloegr ar gyfer eu hymchwil.

Bydd y GIG yn cael ei annog i roi cyflenwi ymchwil wrth wraidd popeth a wnânt, gan ei wneud yn rhan hanfodol a gwerth chweil o ofal cleifion effeithiol. Mae hyn yn golygu adeiladu diwylliant ar draws y GIG a'r holl leoliadau iechyd a gofal sy'n gadarnhaol o blaid ymchwil, lle mae'r holl staff yn teimlo eu bod wedi'u grymuso a'u cefnogi i gymryd rhan mewn cyflenwi ymchwil clinigol fel rhan o'u swydd.

Dywedodd Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Ymchwil clinigol yw asgwrn cefn gofal iechyd - dyma'r ffordd yr ydym yn gwella canfod, diagnosio, trin ac atal afiechyd ac yn gwella bywydau cleifion ledled y wlad. Ni fu hyn erioed mor wir ag y bu yn ystod ein hymateb i'r pandemig.

“Trwy fanteisio ar ein harbenigedd ymchwil byd-enwog a phartneriaeth gref rhwng busnes, y byd academaidd, y GIG a'r Llywodraeth, rydym yn benderfynol o wneud y DU yn un o'r lleoedd gorau bosibl i gynnal ymchwil clinigol a fydd yn gwella iechyd pobl yma ac ar draws y byd.

“Bydd technolegau, data a dadansoddeg arloesol yn trawsnewid gofal iechyd ac yn achub bywydau. Nawr yw'r amser i fachu ar y cyfle a gwireddu'r weledigaeth hon.”

Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi ffocws ar gryfder a phwysigrwydd sylfaen ymchwil y DU. Mae cyflenwi treialon clinigol yn gyflym, fel RECOVERY, wedi dangos sut y gall y DU sefydlu treialon mewn amser byr iawn heb golli manwl gywirdeb. Fe wnaeth y cryfderau hyn mewn cyflenwi ymchwil alluogi'r DU i nodi'r driniaeth brofedig gyntaf ar gyfer COVID-19, dexamethasone, sydd wedi torri cyfraddau marwolaeth gymaint ag un rhan o dair mewn cleifion COVID-19 sydd angen awyru, ac amcangyfrifir ei bod wedi achub dros 27,000 o fywydau yn y DU a channoedd o filoedd o fywydau ledled y byd. Mae ein hymchwil hefyd wedi gwneud cyfraniad blaenllaw i'r ymdrech frechlyn ryngwladol - gan daflu goleuni ar y llwybr yn ôl i normalrwydd .

Hefyd, dysgwyd gwersi pwysig o'r pandemig ynghylch ble y gallwn wella, megis grymuso gweithwyr gofal iechyd ac ymchwil, sydd wedi gweithio’n galed i ofalu amdanom yn ystod y pandemig, i sicrhau bod ein gweithlu'n cael cefnogaeth ac yn gallu gwrthsefyll heriau yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi gweld yr angen i fynd ymhellach fyth o ran dylunio a chyflenwi treialon arloesol.

Dywedodd yr Arglwydd Bethell, y Gweinidog Arloesedd:

“Rydym yn prysur agosáu at newid sylweddol mewn gofal iechyd byd-eang, gyda thechnolegau a thriniaethau newydd yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn diagnosio, yn trin ac yn atal salwch.

“Mae angen i ni weithredu nawr i leoli’r DU ar flaen y gad yn y chwyldro gofal iechyd hwn. Mae ein gweledigaeth yn nodi sut y byddwn yn cyflawni system cyflenwi ymchwil clinigol yn y DU sy'n arloesol, yn darparu ar gyfer yr holl noddwyr ymchwil a chleifion, ac sy'n gydnerth yn wyneb argyfyngau gofal iechyd yn y dyfodol.”

Mae 5 thema allweddol yn sail i’n gweledigaeth:

  • Ymchwil clinigol wedi’i ymgorffori yn y GIG – i greu diwylliant sy’n gadarnhaol o safbwynt ymchwil, lle mae’r holl staff iechyd a gofal yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i gefnogi a chymryd rhan mewn ymchwil clinigol fel rhan o’u swydd.

  • Ymchwil sy’n canolbwyntio ar y claf – i wneud mynediad a chyfranogiad mewn ymchwil mor hawdd â phosibl i bawb ledled y DU, gan gynnwys poblogaethau gwledig, amrywiol a’r rhai nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.

  • Ymchwil symlach, effeithlon ac arloesol – fel bod y DU yn cael ei hystyried fel y lle gorau yn y byd i gynnal ymchwil clinigol cyflym, effeithlon a blaengar.

  • Ymchwil wedi’i alluogi gan ddata ac offer digidol – i sicrhau bod gan y DU yr amgylchedd ymchwil clinigol mwyaf datblygedig a alluogir gan ddata yn y byd, sy’n manteisio ar ein hasedau data unigryw i wella iechyd a gofal cleifion ledled y DU a thu hwnt.

  • Gweithlu ymchwil cynaliadwy a gefnogir – sy’n cynnig cyfleoedd gwerth chweil a gyrfaoedd cyffrous i’r holl staff gofal iechyd ac ymchwil o bob cefndir proffesiynol - ar hyd a lled ymchwil masnachol ac anfasnachol.

Er mwyn cyflenwi'r nodau hyn, nodwyd sawl maes blaenoriaeth, megis gwella cyflymder ac effeithlonrwydd sefydlu astudiaethau, adeiladu ar lwyfannau digidol i ddarparu ymchwil clinigol, a gwneud ymchwil yn fwy amrywiol ac yn fwy perthnasol i'r DU gyfan. Bydd hyn yn chwalu rhwystrau traddodiadol ac yn darparu amgylchedd ymchwil clinigol sy'n canolbwyntio ar y claf ac sydd o blaid arloesi.

Dilynir lansio'r weledigaeth ledled y DU gan gynlluniau gweithredu a strategaethau sy'n nodi sut y bydd llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn dechrau cyflenwi'r weledigaeth yn ystod 2021-2022.

Dywedodd Dr William van’t Hoff, Prif Weithredwr Rhwydwaith Ymchwil Clinigol NIHR:

“Mae ymchwil clinigol yn rhan greiddiol o system iechyd a gofal arloesol a blaengar. Mae'r hyn rydym wedi ei ddysgu o'r pandemig yn dangos bod modd ymgorffori ymchwil clinigol yn y GIG a'i fod yn cyflenwi ar gyfer cleifion yn ogystal â’r GIG. Trwy weithredu'r weledigaeth hon, bydd mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gallu cymryd rhan mewn ymchwil, gan wella gofal, a bydd hyn o fudd i gleifion ledled y wlad.”

Mae'r weledigaeth hon yn adlewyrchu uchelgais pedair llywodraeth y DU ac fe'i datblygwyd trwy ddull traws-sector eang sy'n cynnwys y GIG, elusennau ymchwil meddygol, y diwydiant gwyddorau bywyd a'r byd academaidd. Bydd cydweithredu parhaus ar draws sectorau a sefydliadau yn sicrhau y cyflawnir y meysydd gweithredu allweddol.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am Ymchwil a Datblygu:

“Rydym yn hyrwyddo ac yn cefnogi ymchwil iechyd a gofal i sicrhau ei fod o'r ansawdd gwyddonol rhyngwladol uchaf, ei fod yn berthnasol i anghenion a heriau iechyd a gofal yng Nghymru, ac yn gwella bywydau cleifion, pobl a chymunedau. Mae'r weledigaeth yr ydym yn ei chyflwyno heddiw yn rhoi ymchwil clinigol wrth galon yr hyn yr ydym am ei gyflawni ac yn golygu bod Cymru yn chwarae ei rhan lawn mewn cyflenwi system ymchwil y DU sy'n arwain y byd.”

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth yr Alban, Jeane Freeman:

“Mae'r Alban yn gartref i amgylchedd ymchwil bywiog ac arloesol. Trwy Ymchwil GIG yr Alban a Swyddfa'r Prif Wyddonydd yn Llywodraeth yr Alban, mae’r ymchwil gorau yn y byd yn cael ei arwain, ei gefnogi a'i gyflenwi ar draws ein GIG a'n prifysgolion. Mae hyn eisoes wedi trawsnewid bywydau cleifion yn yr Alban, y DU a ledled y byd. Mae'r weledigaeth ar gyfer ymchwil clinigol yr ydym yn ei lansio heddiw yn dangos ymrwymiad parhaus i adeiladu ar ein cryfderau, gweithio ar y cyd a sicrhau y gall pawb elwa o ddatblygiadau mewn gofal iechyd.”

Dywedodd Robin Swann, Gweinidog Iechyd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon:

"Yng Ngogledd Iwerddon, rydym yng nghanol ein Strategaeth 10 mlynedd, 'Ymchwil ar gyfer Gwell Iechyd a Gofal Cymdeithasol', sy'n nodi sut mae iechyd, llesiant a ffyniant poblogaeth Gogledd Iwerddon yn elwa o Ymchwil a Datblygu rhagorol, byd-enwog mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r weledigaeth ar gyfer cyflenwi ymchwil clinigol yr ydym yn ei lansio heddiw yn rhoi hwb ychwanegol i'n cynlluniau ac yn sicrhau y gallwn chwarae ein rhan lawn wrth wneud y DU y lle gorau i gynnal ymchwil arloesol er budd pawb."