Dweud eich dweud am ein blaenoriaethau cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd
23 Mawrth
Mae'r arolwg hwn bellach ar gau
Fis Ionawr 2021, cyhoeddodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gynllun gweithredu sy’n manylu ar sut y gallwn ni wella gwaith cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ymchwil yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn, o’r enw Darganfod Eich Rôl mewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn cynnwys nifer o gamau gweithredu yr hoffen ni eu cymryd ar draws saith maes ffocws. Yn dilyn digwyddiad ym mis Ionawr, rydyn ni eisoes wedi dechrau gweithio ar y blaenoriaethau cyntaf a nodwyd mewn trafodaeth â’r rheini a fynychodd; goresgyn rhwystrau rhag talu cyfranogwyr cyhoeddus a datblygu cynllun ymgysylltu llawn bwriad.
Mae angen eich help arnon ni i benderfynu pa gamau gweithredu y dylen ni ganolbwyntio arnyn nhw nesaf.
Rydyn ni eisiau gwybod beth yw’ch barn chi; dywedwch wrthym ni pa dri o’r 13 o weithgareddau ydy’r rhai pwysicaf i chi trwy gymryd rhan mewn arolwg byr. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu pa gamau gweithredu i’w blaenoriaethu yn gyntaf yn ein gwaith (byddwn ni’n rhoi pob un o’r gweithgareddau hyn ar waith dros amser):
- Cyflenwi cyfres o ‘seminarau’ ar gynnwys y cyhoedd, ar gyfer y cyhoedd ac ar gyfer y gymuned ymchwil
- Gwneud yn siŵr bod uwch staff ledled Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n hybu ac yn cefnogi cynnwys y cyhoedd
- Creu canllawiau i gefnogi ymchwilwyr i ddangos a hyrwyddo cynnwys y cyhoedd yn ystyrlon yn y diwylliant a’r broses ymchwil
- Gwneud yn siŵr bod y cyhoedd yn cael eu cynrychioli fel rhan o drefniadau llywodraethu yn y dyfodol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
- Meithrin perthnasoedd â phrifysgolion a hybu addysg ym maes cynnwys y cyhoedd fel rhan allweddol o gyrsiau hyfforddi
- Archwilio prosesau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan ddefnyddio Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd er mwyn nodi meysydd i’w gwella
- Gwneud yn siŵr bod trefniadau’n glir ynglŷn ag adnoddau cynnwys y cyhoedd a pholisïau talu am amser
- Adolygu’r ‘pecyn’ cefnogaeth i gynnwys y cyhoedd ar gyfer staff ymchwil ac ar gyfer y cyhoedd, i wneud yn siŵr ei fod yn addas i’r diben
- Anelu at achredu hyfforddiant cynnwys y cyhoedd, ar sail Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd, fel bod y gymuned ymchwil yn manteisio arno
- Diwygio gofynion adrodd ar gyfer prosiectau a grwpiau y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n eu hariannu, i gynnwys profiadau personol pobl o gynnwys y cyhoedd
- Datblygu templed ar gyfer y gymuned ymchwil fel bod pawb yn gyson wrth gipio profiadau personol o gynnwys y cyhoedd
- Cyflwyno cefnogaeth a chanllawiau i’r cyhoedd fel eu bod yn gallu rhannu eu profiadau o gael eu cynnwys
- Creu fframwaith i werthuso’r gwahaniaeth y mae cydweithio’n ei wneud i waith cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru
Meddai Reshma Raycoba, Pennaeth Cynnwys y Cyhoedd, Llywodraethu Ymchwil a Digidol y GIG (Dros dro) yn Llywodraeth Cymru: “Mae aelodau’r cyhoedd yn hanfodol i’r broses ymchwil; hebddyn nhw, dydy ymchwil ystyrlon, sy’n newid bywydau, ddim yn gallu digwydd. Dydy effaith ymchwil ar ofal erioed wedi bod yn gliriach nag a welwyd o ganlyniad i’r ymdrechion ymchwil yn ystod y pandemig. Rydyn ni mor ddiolchgar i’r rheini sydd eisoes wedi chwarae rhan. Nawr, mae angen rhagor o bobl arnon ni, i’n helpu i lunio astudiaethau ymchwil sy’n cyflenwi gofal gwell ar gyfer y dyfodol.
Bydd gweithredu fel hyn yn ein helpu i adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes yn mynd rhagddo yng Nghymru i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, eu cynnwys ac ymgysylltu â nhw yn fwy helaeth mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer ymchwil dda, ddiogel a moesegol.
Byddwn ni’n gweithio ar sut i gyrraedd mwy o aelodau’r cyhoedd sydd â phrofiad ymarferol mewn meysydd rydyn ni’n ymchwilio iddyn nhw. Byddwn ni hefyd yn cefnogi ein cymuned ymchwil a’n gweithwyr cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd proffesiynol trwy wneud eu bywydau yn haws a rhannu’r hyn sy’n gweithio’n dda.”
Meddai Alan Thomas, aelod o Gymuned Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Gan bod gen i glefyd anghyffredin, o’r enw Atacsia, dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn cael safbwynt y claf o ran protocol ymchwil, a chael y cyhoedd i chwarae rhan mewn ymchwil sy’n effeithio ar eu hiechyd eu hunain. Os ydych chi eisiau dod o hyd i driniaeth neu rywbeth sy’n rhoi gwellhad llwyr ar gyfer unrhyw beth, mae angen ichi fod yn barod i gael eich cynnwys.”
“Dwi’n meddwl bod cynllun Darganfod Eich Rôl Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n dda iawn; mae’n llawn gwybodaeth, mae’n addysgol ac mae pawb yn parchu barn pawb. Mae’n blatfform hynod dda i fod yn rhan ohono.”
Peidiwch ag anghofio cofrestru ar gyfer dau ddigwyddiad nesaf y Fforwm ar 11 a 13 Mai 2021. Mae’r cofrestru nawr ar agor ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, lle gallwch chi ddewis cofrestru ar gyfer un digwyddiad neu’r ddau