
Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd trwy gyfarfodydd cyfranogol
Mae yna nifer o fodelau ar gyfer cynnwys aelodau’r teulu mewn penderfyniadau lle ceir pryderon ynglŷn â phlentyn, yn hytrach na phenderfyniadau’n cael eu gwneud mewn cynhadledd achosion dan arweiniad gweithwyr proffesiynol.
Mae’r modelau hyn yn cynnwys cynadleddau grwpiau teuluoedd, sef y model a ddefnyddir fwyaf helaeth yn y DU. Mae’r weminar hon yn cynnwys trosolwg o dystiolaeth ymchwil ryngwladol ynglŷn â chyfarfodydd lle bo’r teulu’n rhannu’r gwaith penderfynu a chyflwyniad ynglŷn â sut y mae dau awdurdod lleol yn Lloegr wedi dechrau defnyddio’r cyfarfodydd hyn yn fwy helaeth yn ddiweddar.
Mae’r trosolwg o ymchwil yn cynnwys darganfyddiadau adolygiad systematig o dystiolaeth ynglŷn â deilliannau ac adolygiad realaidd sy’n canolbwyntio ar sut y mae cyfarfodydd yn gallu galluogi teuluoedd i chwarae rhan lawn mewn gwneud penderfyniadau. Mae’r cyflwyniad ynglŷn ag arfer yn edrych ar enghraifft o sut y mae cynadledda gyda grwpiau teuluoedd a chynadleddau amddiffyn plant cyfranogol wedi disodli cynadleddau achosion traddodiadol.
Siaradwyr:
- Jonathan Scourfield a Lorna Stabler (CASCADE, Prifysgol Caerdydd)
- Kathy Nuza, Prif Arweinydd, Gwasanaeth Cynadleddau Grwpiau Teuluoedd Dau Fwrdeistref (Kensington a Chelsea a Westminster)
Rhad ac am ddim
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan trefnwyr y digwyddiad.