Nyrs yn rhoi brechiad i gleifion benywaidd

Angen gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd a’r Fro i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil i frechlyn COVID-19 a brechlyn rhag y ffliw

6 Mai

Mae angen gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil sy'n edrych ar ba mor effeithiol yw rhoi brechlyn COVID-19 ar yr un pryd â'r brechlyn rhag y ffliw tymhorol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn recriwtio pobl dros 18 oed sydd wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn COVID-19 Rhydychen/AstraZeneca – ac sydd wedi derbyn apwyntiad ar gyfer eu hail ddos yng Nghanolfan Frechu Torfol y Bae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – i gymryd rhan yn yr astudiaeth ymchwil hon.

Mae'r Astudiaeth Cyfuno Brechlyn rhag y Ffliw a COVID-19 (ComFluCOV), sy'n cael ei rhedeg gan Ganolfan Treialon Bryste, a noddir ac a arweinir gan Ysbytai Prifysgol Bryste ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Weston (UHBW), yn cael ei chynnal ar hyn o bryd mewn 11 o safleoedd ledled y DU.

Dywedodd Dr Andrew Carson-Stevens, Prif Ymchwilydd Astudiaeth ComFluCOV ac Arweinydd Arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Gofal Sylfaenol:

"Dydyn ni’n dal ddim yn gwybod am ba hyd y bydd y brechlynnau COVID-19 cymeradwy yn diogelu ac mae posibilrwydd y bydd angen pigiadau atgyfnerthu. Bydd angen i ni hefyd barhau â'r amserlen frechu rhag y ffliw tymhorol, felly dyna pam ein bod yn edrych i weld a allai pobl gael y ddau frechiad yn yr un apwyntiad.

"Bydd yr astudiaeth hon yn monitro a yw pobl yn cael unrhyw sgil-effeithiau, fel twymyn a blinder, pan fyddan nhw’n cael eu hail ddos o frechlyn COVID-19 Rhydychen/AstraZeneca ar yr un pryd â'r brechlyn rhag y ffliw a argymhellir ar hyn o bryd. Byddwn hefyd yn edrych ar ymatebion imiwnedd pobl i'r ddau frechlyn pan gânt eu rhoi gyda'i gilydd.

"Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan mewn ymchwil gan hefyd barhau i dderbyn eich ail ddos o frechlynCOVID-19 Rhydychen/AstraZeneca. Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, byddwch yn gallu ein helpu ni i ateb cwestiynau am sut yr ydym yn parhau i ddiogelu pobl rhag COVID-19 a’r ffliw tymhorol mewn ffordd ddiogel ac effeithiol."

Bydd pob cyfranogwr yn derbyn ail ddos o frechlyn COVID-19 Rhydychen/AstraZeneca.

Bydd cyfranogwyr sy'n gymwys i gymryd rhan yn derbyn ail ddos o frechlyn COVID-19 Rhydychen/AstraZeneca a byddant yn cael eu neilltuo i un o ddau grŵp:

  • Bydd un grŵp yn derbyn yr ail ddos o'r brechlyn COVID-19 a'r brechlyn rhag y ffliw yn ystod eu hymweliad cyntaf, yna pigiad o heli (plasebo) yn ystod eu hail ymweliad
  • Bydd y grŵp arall yn derbyn yr ail ddos o'r brechlyn COVID-19 a chwistrelliad o heli (plasebo) yn ystod eu hymweliad cyntaf ac yna y brechlyn rhag y ffliw yn ystod eu hail ymweliad

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi helpu gydag ymchwil ar yr un pryd â chael eich ail ddos?

  • Ydych chi dros 18 oed?
  • Ydych chi wedi derbyn eich dos cyntaf o frechlyn COVID-19 Rhydychen/AstraZeneca?
  • A oes gennych chi apwyntiad ar gyfer eich ail frechlyn COVID-19 Rhydychen/AstraZeneca?
  • A yw eich apwyntiad yng Nghanolfan Frechu Torfol y Bae?

I gael gwybod mwy am gymryd rhan, ewch i: https://comflucov.blogs.bristol.ac.uk/participate-bayside-mass-vaccination-centre/

Mae cwestiynau cyffredin am yr astudiaeth i'w gweld ar wefan UHBW.