Dr Matt Morgan

Mae astudiaeth dan arweiniad Cymru yn canfod nad yw hypothermia ysgogedig ar ôl ataliad ar y galon yn gwella goroesiad

21 Mehefin

Mae astudiaeth i effeithiolrwydd oeri tymheredd corff cleifion ataliad y galon, a arweinir yn y DU gan Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) ac a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi canfod nad yw'r driniaeth yn gwella'r siawns o oroesi.

Ers tua’r flwyddyn 2000, yr arfer gorau fu i oeri cleifion ataliad y galon oedd yn anymwybodol i gyn lleied â 33 gradd Celsius, gyda thystiolaeth flaenorol yn awgrymu bod hypothermia yn gwella goroesiad cleifion. Ystyriwyd bod y dystiolaeth ar gyfer y canllawiau yn wan, a chychwynnwyd treial mawr rhyngwladol mawr ar hap, yn cael ei arwain yn fyd-eang gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Lund yn Sweden, gyda chyfraniad pwysig gan naw ysbyty ledled y DU.

Helpodd  Dr Matt Morgan, meddyg gofal dwys yn YAC, ac Arweinydd Arbenigol Gofal Critigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Matt Wise i arwain yr astudiaeth yn holl safleoedd y DU.

Cyfrannodd Cymru'r ail nifer fwyaf o gyfranogwyr o'r DU, gan recriwtio 54 o gleifion i'r astudiaeth gan gynnwys Andrew Barnett, cyfranogwr o Gaerdydd a ddioddefodd ataliad ar y galon yn ystod gêm bêl-droed, yn debyg i Christian Eriksen.

Roedd yn un o'r 1900 o gleifion yn yr achos, a goroesodd i ddychwelyd i chwarae pêl-droed.

Dywedodd Dr Matt Morgan: “Bydd y canlyniadau hyn yn ein helpu i ofalu am y cleifion gwaelaf sy’n ymladd i oroesi ar ôl ataliad ar y galon.

“Mae achos Christian Eriksen wedi dod ag ataliad ar y galon i sylw'r cyhoedd, ac wedi dangos sut y gall gofal ar sail tystiolaeth a weinyddir yn gyflym achub bywydau. Mae ymchwil fel hyn, sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni mewn ysbytai, yr un mor bwysig i wella goroesiad a chanlyniadau cleifion, nid yn unig darganfod beth sy'n gweithio ond hefyd beth sydd ddim yn gweithio, er mwyn osgoi gwastraffu amser gwerthfawr.”

Dywedodd Jade Cole, nyrs ymchwil arbenigol arweiniol yng Nghaerdydd: “Rydyn ni mor ddiolchgar i’r holl gleifion a’u teuluoedd sydd wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth ac wedi helpu’r treial i fod yn llwyddiant.”

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae gweld ymchwil fel hyn yn gwneud newidiadau yn y byd go iawn i ymarfer yn ein hatgoffa ni i gyd pa mor hanfodol yw hi i Gymru barhau i gyfrannu at astudiaethau byd-eang.”

Dywedodd Niklas Nielsen a oedd yn arweinydd byd-eang ar gyfer yr astudiaeth: “Mae’n bwysig gosod safonau uchel ar gyfer astudiaethau clinigol, yn rhannol er mwyn penderfynu beth ddylid ei gyflwyno mewn gofal iechyd, ac yn rhannol er mwyn herio’r arferion sydd eisoes yn cael eu defnyddio - er mwyn sicrhau ein bod yn cael pethau’n iawn, a bod gofal iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth.”