Arolwg ar Lwybrau Gyrfa Ymchwil i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cynnal prosiect cydweithredol sy'n adolygu'r llwybrau hyfforddiant a datblygu gyrfa ar gyfer ymchwilwyr mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan weithio'n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydym yn archwilio a ydyn nhw'n addas at y diben ac yn ystyried pa welliannau y gellid eu gwneud. Y canlyniad fydd cyfres o argymhellion i'w hystyried i wella llwybrau gyrfa ymchwil yng Nghymru.
I lywio'r adolygiad, hoffem gasglu barn gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ac ymchwilwyr ar bob cam yn eu gyrfa, i gael adborth ar y cyfleoedd, y gefnogaeth a'r profiadau y maent wedi'u cael wrth ddilyn gyrfa ymchwil, ynghyd ag unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwelliant. Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol sydd â diddordeb mewn ymchwil, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae'r arolwg hwn yn cynnwys cyfres fer o gwestiynau yr hoffem eu gofyn ichi a fydd yn helpu i lywio gwelliannau yn y dyfodol mewn llwybrau gyrfa ymchwil. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gwblhau'r arolwg hwn erbyn 12:00 ddydd Llun 26 Gorffennaf 2021