Cyflwyniad i Hap-dreialon Wedi’u Rheoli
Dyma gyfle i ddarganfod pwysigrwydd treialon mewn meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth a dysgu am gylch oes treial, o’r syniad ar y dechrau i’w gyhoeddi.
Mae Cwrs Ar-lein Agored Anferthol (MOOC) newydd wedi’i ddatblygu ac yn cael ei lansio ar 26 Gorffennaf 2021.
Mae’r cwrs hwn ar gael trwy FutureLearn ac mae’n cael ei draddodi gan arbenigwyr o Brifysgol Birmingham.
Mae’r cwrs yn cymryd tair wythnos i’w gwblhau, gyda phedair awr o astudio yr wythnos a bwriedir ef ar gyfer staff treialon clinigol newydd neu rai sydd eisoes yn bodoli. Efallai y bydd hefyd o ddiddordeb i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am broses ehangach hap-dreialon wedi’u rheoli.
Gellir dilyn y cwrs sylfaenol yn rhad ac am ddim, gydag opsiynau i uwchraddio ar gyfer y rheini sydd eisiau Tystysgrif ar ôl ei gwblhau.
Gallwch chi weld rhagor o wybodaeth am y cwrs trwy fynd i’r dudalen Introduction to Randomised Controlled Trials ar wefan FutureLearn.
Sylwch: Sefydliad allanol ar gyfer cynulleidfa DU-eang sy’n darparu’r cwrs, yn Saesneg yn unig.