Forum image

Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd - Tachwedd 2021

Yn dilyn llwyddiant Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd cyntaf Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cynhelir yr ail ddigwyddiad yn ystod dwy sesiwn ar 4 ac 11 Tachwedd 2021 ar Zoom.

Daeth bron i 100 o bobl i'r Fforwm cyntaf a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod ym mis Mai 2021.

Roedd hwn yn gyfle i fynychwyr glywed am y cynnydd a wnaed â chynllun gweithredu 'Gwaith Ymchwil ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Darganfod Eich Rôl' a chlywed oddi wrth amrywiaeth o siaradwyr am gynnwys y cyhoedd mewn blaenoriaethu ymchwil a sut y gellir cyflawni cynhwysiant ac amrywiaeth ehangach mewn ymchwil.

Mewn ymateb i’r adborth, bydd y Fforwm nesaf yn archwilio Maes Ffocws 2 y Cynllun Gweithredu, a fydd yn edrych ar ffyrdd i sicrhau bod cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn cael ei gefnogi ar lefelau uwch. Bydd y mynychwyr hefyd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd a rhwystrau gweinyddol rhag ariannu cynnwys y cyhoedd. Byddwn ni’n cynnal yr un digwyddiad ar ddau ddiwrnod gwahanol, i roi’r cyfle i fwy o bobl fynychu’r sesiynau byw.

Bydd cynnwys y ddau ddiwrnod yr un fath, felly does dim ond angen ichi fynychu un o’r digwyddiadau sydd wedi’u rhestru isod.

  • 4 Tachwedd 2021, 10:00 – 12:00, 
  • 11 Tachwedd 2021, 14:00 – 16:00

Yr amser cau ar gyfer cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn yw 17:00 ar 27 Hydref 2021.

 

-

Ar-lein