Gweminar Grant Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
21 Medi
-
Ydych chi’n ystyried ymgeisio am gyllid o’r Cynllun Ariannu Ymchwil: Grant Gofal Cymdeithasol?
-
Ydych chi wedi meddwl tybed sut y gall rhedeg prosiect â’r cynllun hwn fod o fudd i’ch gyrfa yn y tymor hir?
Bydd y weminar grant gofal cymdeithasol yn eich helpu i ddysgu am ba faterion sy’n aml yn baglu ymgeiswyr a sut y gallwch chi eu hosgoi. Byddwch chi hefyd yn clywed am y gefnogaeth y gallwch chi fanteisio arni i ddatblygu cynnig ar gyfer y cynllun hwn. Mae’r siaradwyr yn rhannu eu profiadau ac yn cynghori ar sut i baratoi ar gyfer y Grantiau Gofal Cymdeithasol a sut y gallwch chi sicrhau eich bod chi’n cyflwyno’ch cais mewn pryd ar gyfer y dyddiad cau am 13:00 ar 21 Hydref 2021.
Ymhlith y siaradwyr fydd:
- Michael Bowdery o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
- Dr Clive Diaz, Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Jonathan Scourfield, Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Jane Noyes, Prifysgol Bangor