Ydych chi'n barod ar gyfer y gynhadledd?
Mae'r llwyfan rhithwir wedi'i osod ac rydym yn ychwanegu'r cyffyrddiadau olaf, wrth i ni baratoi i'ch croesawu i'n 7fed cynhadledd flynyddol.
Yn sicr, mae wedi bod yn 12 mis prysur arall yn y byd ymchwil ers i ni ddod at ein gilydd ddiwethaf, felly bydd hwn yn gyfle gwych i glywed gan yr ymchwilwyr gorau o bob rhan o'r DU, ac i ymuno mewn trafodaethau.
Gyda thema gyffredinol Dysgu ac Edrych Ymlaen, mae cynhadledd eleni yn cynnwys rhaglen lawn o sesiynau llawn a sesiynau cyfochrog.
Efallai eich bod yn bwriadu gofyn cwestiynau i gyfrannu at ein Dysgu o'r cyfarfod llawn pandemig, neu ein sesiwn gyfochrog ar Gynhwysiant, Amrywiaeth a Chydraddoldeb, neu efallai eich bod yn awyddus i glywed am y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil canser. Mae yna ddigon i bawb mewn gwirionedd.
Byddwn hefyd yn dathlu cyflawniadau'r gymuned ymchwil yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda set newydd sbon o wobrau a fydd yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y dydd. Wyddoch chi ddim, efallai mai eich enw chi fyddwn ni yn ei gyhoeddi ar 14 Hydref!
Gwnewch yn siŵr eich bod chi yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Mae'n argoeli i fod yn gynhadledd ragorol arall i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac edrychaf ymlaen at eich gweld chi i gyd yno.
Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru