Pedair ffordd mae ymchwil dementia yng Nghymru yn gwella bywydau
Mae'n ddiwrnod Alzheimer y Byd (21 Medi), sy'n gyfle byd-eang i godi ymwybyddiaeth o ynghylch dementia, i addysgu, annog cefnogaeth i ddementia a'i ddadgyfrinio.
Mae cymuned ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio'n galed i wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae yna gyfoeth o ymchwil anhygoel i ddementia, gan gynnwys clefyd Alzheimer, yn digwydd ledled Cymru.
Term cyffredinol yw dementia am golli cof a galluoedd meddyliol eraill sy'n ddigon difrifol i ymyrryd â bywyd bob dydd. Clefyd Alzheimer yw ffurf fwyaf cyffredin y cyflwr hwn. Dyma bedair enghraifft yn unig o'r nifer o ffyrdd y mae ymchwil yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth i'r rhai yr effeithir arnynt:
- Cefnogaeth gyda theimladau o golled a galar
Ar ôl cael diagnosis, gall pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd ddelio â theimladau o golled a galar. Ond yn aml, gellir anwybyddu'r teimladau hyn oherwydd bod y person yn dal i fod yn bresennol.
Mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd ag ymchwilwyr o'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, yn gwerthuso gwasanaeth newydd gan Cruse Bereavement Cymru, sy'n rhoi mewnwelediad i wirfoddolwyr sut brofiad yw gofalu am rywun â dementia ac yn dangos iddynt sut i ddarparu cefnogaeth.
Mae Cruse eisoes wedi cefnogi 120 o bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia drwy’r gwasanaeth hwn, a disgrifiwyd eu cefnogaeth fel un sy'n “anfesuradwy, ar adeg o dywyllwch mawr.”
Darllenwch fwy am yr ymchwil hwn.
- Gwella iechyd meddwl a rhwystro unigrwydd
Mae unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn sy'n byw gyda dementia.
Cymerodd ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia ran mewn astudiaeth ryngwladol yn edrych ar ddatblygiad gwytnwch meddyliol. Gwelsant fod gan y rhai â gwytnwch meddyliol uwch:
- Hunan-barch uwch
- Mwy o gysylltiadau cymdeithasol
- Cefnogaeth gan ffrindiau a theulu
- Heb adrodd am broblemau a chof
Mae hwn yn gam cyntaf pwysig o ran ennill gwybodaeth newydd am bobl hŷn a gwytnwch meddyliol.
Darllenwch fwy am yr ymchwil hwn.
- Cefnogi gofalwyr i gymryd seibiant
Mae gofalu am iechyd a llesiant gofalwyr yn hanfodol i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia, a gall eu hatal neu eu gohirio rhag gorfod symud i gartrefi gofal. Fodd bynnag, mae dealltwriaeth o'r hyn sy'n gwneud seibiant byr yn llwyddiannus yn gyfyngedig.
Nododd ymchwil gan y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia dair blaenoriaeth ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol i seibiannau byr:
- Deall beth sy'n bwysig i ofalwyr o ran anghenion seibiant byr
- Cipio canlyniadau seibiannau byr a sut maen nhw'n gwneud i ofalwyr deimlo
- Sicrhau y gall gofalwyr gymryd seibiannau byr a'u newid yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Darllenwch fwy am yr ymchwil hwn.
- Helpu aelodau o’r teulu i ofalu am eu hanwyliaid
Mae mwyafrif y bobl sy'n byw gyda dementia yn derbyn gofal gan aelodau'r teulu gartref, y mae eu gwybodaeth arbenigol am y cyflwr yn aml yn gyfyngedig. Gall hyn beri straen mawr, gyda llawer o ofalwyr yn profi salwch meddwl a chorfforol o ganlyniad.
Mae ymchwilwyr yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor yn rhan o astudiaeth ryngwladol sy’n asesu effeithiolrwydd ‘iGymorth’, offeryn ar-lein sydd wedi’i gynllunio i helpu gofalwyr i ddarparu gofal da a gofalu amdanynt eu hunain.