Person yn siarad o flaen torf y gynhadledd

Allech chi fod yn un o’n Huwch Arweinwyr Ymchwil nesaf?

23 Tachwedd

*Mae'r alwad hon bellach ar gau*

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o lansio’r cais am geisiadau i’n cynllun Uwch-arweinwyr Ymchwil 2022-2025.

Mae’r Uwch-arweinwyr Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ymysg yr ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf blaenllaw a chlodwiw yn y wlad. Maen nhw’n chwarae rôl hanfodol wrth arwain a datblygu’r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru.

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Rydym yn dibynnu arnynt i ddarparu arweiniad, i weithredu fel llysgenhadon ac eiriolwyr dros ymchwil iechyd a gofal, ac i chwarae rôl ganolog i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru drwy fentora, a thrwy ddarparu cyngor a chymorth i’r gymuned ymchwil. 

“Fel rhan o ymrwymiad amser Uwch-arweinwyr Ymchwil, byddant yn cyfrannu at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys drwy baneli, byrddau neu bwyllgorau, drwy ymgysylltu ar lefel y DU â chyllidwyr a chyrff eraill, a thrwy gyfrannu at feithrin capasiti a gallu ymchwil yng Nghymru drwy amrywiol weithgareddau.”

I gydnabod y rôl bwysig sydd ganddynt a’u cyfraniad at feithrin a chefnogi’r gymuned ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae Uwch-arweinwyr Ymchwil yn derbyn dyfarniad blynyddol yn ôl disgresiwn o hyd at £20,000 i gefnogi eu gwaith ymchwil.

Caiff pob cais i fod yn Uwch-arweinydd Ymchwil ei asesu gan banel o arbenigwyr allanol.

Mae meini prawf cymhwysedd llawn a manylion am sut i wneud cais i'w gweld ar dudalen y cynllun Uwch Arweinwyr Ymchwil.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 13:00 ddydd Llun 10 Tachwedd 2021.