Canfuwyd bod y treial brechlyn Covid cyntaf sy'n deillio o blanhigion a astudiwyd yng Nghymru yn 75.3% yn effeithiol at ddefnydd pobl
22 Rhagfyr
Gwirfoddolwyr o Gymru oedd rhai o'r cyntaf yn y byd i dderbyn y brechlyn Medicago Covid-19 (CoVLP), y canfuwyd ei fod yn 75.3% effeithiol yn erbyn COVID-19 o unrhyw lefel difrifoldeb a achoswyd gan yr amrywiolyn Delta sy'n ddominyddol ledled y byd.
Roedd yr astudiaeth brechlyn Medicago byd-eang, sef y gyntaf yn y byd sy'n deillio o blanhigion, yn rhedeg ar draws 11 o safleoedd yn y DU, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru. O'r 24,146 o gyfranogwyr o bob cwr o'r byd a fu'n rhan o'r astudiaeth, roedd y nifer uchaf o wirfoddolwyr 18-35 oed yn dod o Abertawe a'r ardaloedd lleol.
Dangoswyd effeithlonrwydd yn erbyn yr holl amrywiolion a welwyd yn yr astudiaeth, gan gynnwys effeithiolrwydd o 75.3% yn erbyn COVID-19 o unrhyw lefel difrifoldeb a achosir gan yr amrywiolyn Delta sy'n ddominyddol yn fyd-eang. Canfuwyd hefyd bod y brechlyn 88.6% yn effeithiol yn erbyn Gamma (amrywiolyn Brasil), a chyfradd effeithiolrwydd cyffredinol y brechlyn yn erbyn pob amrywiolyn o SARS-COV-2 oedd 71%.
Roedd y brechlyn yn cael ei oddef yn dda, ac ni adroddwyd am unrhyw ddigwyddiadau niweidiol difrifol. Yn seiliedig ar ganlyniadau heddiw, mae'r broses ffeilio reoleiddiol eisoes ar y gweill gyda FDA, MHRA a WHO.
Profodd gwirfoddolwyr effeithiolrwydd a diogelwch y pedwerydd brechlyn ar gyfer COVID-19 ym mis Mai a mis Mehefin eleni.
Un cyfranogwr a fu'n rhan o'r astudiaeth oedd Alice Briggs, gyrrwr dosbarthu 24 oed o Ben-y-bont ar Ogwr.
Meddai hi: “Clywais am yr astudiaeth trwy neges destun gan fy meddyg teulu. Ar ôl sgrinio, cefais y golau gwyrdd i fod yn rhan o’r treial.
“Roeddwn yn teimlo'n eithaf esmwyth ynglŷn â chymryd rhan - mae’r brechlynnau’n mynd trwy brofion ymlaen llaw, a ni’r cyfranogwyr yw’r cam olaf.
“Roeddwn i’n gweld pobl roeddwn i’n eu hadnabod yn cael COVID-19, ac yn dioddef yn eithaf drwg o'i herwydd. Felly, roeddwn i'n meddwl os yw hyn yn mynd i achub bywydau a helpu i oresgyn yr afiechyd yn nes ymlaen, gadewch i ni afael ynddi!
“Roeddwn yn hapus i wneud fy rhan. Roeddwn i eisiau gwneud unrhyw beth a allai helpu i ddod â ni yn ôl i normal.”
Cynhyrchir y brechlyn ar ffurf gronynnau tebyg i goronafeirws, a elwir yn CoVLPs, sydd tua'r un siâp a maint ac yn edrych yn debyg iawn i goronafeirysau byw. Fodd bynnag, nid oes ganddynt unrhyw ddeunydd genetig firaol sy'n golygu na allant achosi'r afiechyd.
Cyfunir y CoVLPs â chyffur ategol (cynhwysyn a allai wella ymateb imiwn y corff) cyn y rhoddir y brechlyn. Mae hyn yn caniatáu rhoi dos llai o'r brechlyn, sy'n golygu y byddai mwy o ddosau ar gael i frechu mwy o bobl, unwaith y bydd y brechlyn wedi'i gymeradwyo.
Y tîm cydweithredol a fu'n ymwneud â chyflenwi'r astudiaeth yng Nghymru oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.
Dywedodd Dr Brendan Healy, sy'n Brif Ymchwilydd ar gyfer treial Medicago ac yn Ymgynghorydd mewn Microbioleg a Chlefydau Heintus Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'n bwysig i ni barhau i ddatblygu brechlynnau a thriniaethau newydd ar gyfer COVID-19 wrth i ni barhau i ddysgu mwy am y feirws a'i amrywiolion. Un o fanteision y dechnoleg hon sy'n deillio o blanhigion yw ei bod yn galluogi'r brechlyn i gael ei gynhyrchu ar raddfa heb unrhyw gyfyngiadau storio oer.
“Brechiadau yw’r offeryn pwysicaf i’n helpu i frwydro yn erbyn y feirws hwn ac rwyf mor falch o’r timau ar draws Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe a gyfrannodd ac a weithiodd mor galed ar yr astudiaeth hon.”
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sydd yn genedlaethol yn cydlynu ymchwil a sefydlu astudiaethau yng Nghymru: “Y brechlyn Medicago yw'r pedwerydd brechlyn i gael ei dreialu yng Nghymru ochr yn ochr â thriniaethau lluosog i helpu i leihau difrifoldeb y feirws.
“Cyfrannodd Cymru’r nifer fwyaf o gyfranogwyr i’r treial hwn yn y DU, sy’n gyflawniad gwych ac yn dangos y data gwerthfawr a gyfrannwyd gennym i helpu miliynau o bobl ledled y byd.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl unigolion a ddaeth ymlaen i helpu gyda’r treial, oherwydd hebddyn nhw, ni fyddai gennym y wybodaeth hon.”
Yn ogystal â'r 11 safle yn y DU, cynhaliwyd astudiaeth brechlyn Medicago mewn sawl safle yn yr Unol Daleithiau, Canada, Ewrop ac America Ladin, gan gofrestru 24,146 o wirfoddolwyr ledled y byd.