Galwad newydd ar gyfer ceisiadau Ysgoloriaethau Ymchwil Doethuriaeth ym Maes Iechyd
23 Ionawr
Mae’n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi y bydd galwad 2022 Ysgoloriaethau ar gyfer Doethuriaeth ym maes Iechyd bellach ar agor.
Mae’r Ysgoloriaeth yn rhoi cyfle i unigolion talentog ymgymryd ag ymchwil ac astudiaethau sy’n arwain at ennill Doethuriaeth a chefnogi datblygu gallu mewn ymchwil iechyd yng Nghymru..
Rydym yn croesawu ceisiadau gan oruchwylwyr arfaethedig; sef prif ymgeiswyr yr ysgoloriaeth. Nid yw’n ofynnol i’r myfyriwr fod wedi cael ei recriwtio yn ystod y cyfnod cais.
Bydd yr holl geisiadau sy’n bodloni’r cylch gwaith cyffredinol a nodir yng nghanllawiau’r galwad yn gymwys i gael eu hystyried. Fodd bynnag, yn ôl yr arfer mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi llunio meysydd blaenoriaeth ac yn croesawu’n arbennig geisiadau a fyddai’n alinio gyda’r amcan iechyd a lles yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021-2026; ac/neu yn rhoi sylw i’r heriau a nodir yn y cynllun Cymru Iachach, sef cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Dyddiad cau: 16:00 ar Ddydd Gwener 18 Mawrth 2022
Gellir dod o hyd i wybodaeth gyffredinol ar yr Ysgoloriaeth Ymchwil Doethuriaeth ym Maes Iechyd ar ein Tudalen cynlluniau ariannu.