Os ydych wedi derbyn prawf COFID-19 positif, gallwch chi fod o gymorth mawr i ymchwilwyr
24 Ionawr
Gall pobl yng Nghymru sydd mewn perygl cynyddol oherwydd COFID-19 ymuno gyda channoedd o wirfoddolwyr sydd yn cymryd rhan mewn astudiaeth dros Brydain gyfan i’r modd y gall cymryd tabledi gwrthfeirol gartref leihau enbydrwydd y feirws, cyflymu adferiad ac osgoi’r angen am driniaethau mewn ysbyty.
Astudiaeth PANORAMIC (Prawf llwyfan addasol i feddyginiaethau gwrthfeirol ar gyfer trin COFID-19 yn gynnar o fewn y gymuned) yw’r treial clinigol cyntaf o’i fath. Caiff y treial ei arwain gan Brifysgol Rhydychen a’i weithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Mae’r astudiaeth yn agored i’r rhai sydd dros 50 oed, neu bobl rhwng 18-49 sydd â chyflwr meddygol isorweddol, gyda phrawf COFID-19 positif (PCR neu LFT) ac wedi dangos symtomau ers hyd at 5 niwrnod.
Un a wnaeth ymuno â’r treial PANORAMIC wedi iddo brofi’n bositif ar gyfer COFID-19 yw Toby Tattersall o Landrindod, sydd yn 57 mlwydd oed,.
Mae ef a’i wraig – sydd yn rieni i bedwar o blant – wedi gweithio fel meddygon teulu yn y feddygfa leol ers 28 mlynedd.
“Roedd yn hynod o hawdd ymuno â’r treial”
Eglurodd Toby: “Fe glywais gyntaf am y treial pan dderbyniais neges destun oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn dilyn canlyniad positif i’r prawf COFID”
“Yna fe ddilynais y linc ar y neges destun a chwblhau holiadur i weld os oeddwn yn gymwys ar gyfer yr astudiaeth. Yn dilyn hyn fe gefais alwad gan feddyg teulu i drafod cymryd rhan. Roedd y llawer haws nag oeddwn yn ei feddwl.”
“Cafodd y feddyginiaeth ei ddanfon i ddrws fy nhŷ”
“Cefais fy newis i dderbyn triniaeth o dan y treial ac roedd y meddyg teulu yn defnyddio cludwr i ddanfon y tabledi gwrthfeirol i’m cartref.”
“Yn awr y cyfan sydd angen i mi ei wneud yw cymryd y tabledi gwrthfeirol bob 12 awr a darparu cofnod dyddiol ar ebost ynghylch fy symtomau a sut rwyf yn teimlo.”
“Os cewch gyfle i fod yn rhan o’r ymchwil – ewch amdano!”
“Rydw’n credu’n gryf mewn ymchwil meddygol ac yn ymddiried yn y staff sydd yn gyfrifol am weithredu’r treialon hyn. Os cewch gyfle unrhyw adeg i fod yn rhan o ymchwil, fe ddylech fanteisio ar y cyfle hwnnw.
“Ymchwil yw’r unig ffordd ymlaen a threialon fel yr un yma yw’r ffordd orau i ddarganfod triniaethau newydd.”
Y driniaeth gyntaf i gael ei harchwilio drwy’r treial fydd molnupiravir (Lagevrio yw’r enw brand). Mae’r feddyginiaeth eisoes wedi ei chymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Cynnyrch Meddygol a Gofal Iechyd, a bydd yr astudiaeth hon yn darparu rhagor o ddata ynghylch y modd y mae meddyginiaethau gwrthfeirol yn gweithio mewn poblogaeth sydd gan mwyaf wedi ei brechu, ac yn helpu gyda phenderfyniadau yn y dyfodol.
Pam bod yr astudiaeth hon mor bwysig?
Dyma eiriau Dr Andrew Carson-Stevens, Prif Ymchwilydd Cymru ar gyfer yr Astudiaeth PANORAMIC ac Arweinydd Arbenigwyr Gofal Sylfaenol Iechyd a Gofal Cymru: "Caiff y cyffur ei amsugno gan gelloedd sydd wedi eu heintio gan COFID-19 gan rwystro’r feirws rhag ymledu. Dylai hyn helpu i leihau’r risg o waeledd difrifol.
“Eto, brechu a brechiadau atgyfnerthu yw’r ffordd orau i’n diogelu ein hunain fel unigolion ac fel cymunedau. Ond fel meddyg teulu, credaf bod y gwaith ymchwil hwn yn gyffrous gan ei fod yn cynnig dull ychwanegol o helpu’r cleifion dan fy ngofal sydd yn dioddef gyda COFID.
“Gallai hyn fod yn drobwynt gwirioneddol i’n cleifion. Mwyaf byd o gleifion y gallwn eu recriwtio, cyntaf byd y byddwn yn canfod yr atebion fydd yn ein galluogi i reoli COFID yn y gymuned. Ymunwch â ni trwy arwyddo neu roi galwad i ni.”
Dyma ddywedodd yr Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn cynrychioli Cymru ar dïm treialon Rhydychen: "Mae ymwneud â’r treial yn digwydd yn rhithiol, sydd yn golygu nad yw wedi ei ganoli mewn un lleoliad megis ysbyty, felly gall unrhyw un o unrhyw ran o Gymru gymryd rhan heb orfod poeni am faterion fel trafnidiaeth.
“Felly bydd y treial PANORAMIC yn gallu parhau i ddarparu cyfleoedd i’r rhai mwyaf bregus gael mynediad at gyffuriau a thriniaethau arloesol.”
Sut gallaf ganfod os ydwi’n gymwys i gymryd rhan?
Mewn ymateb, dywed Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwraig Cefnogaeth a Darparu yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sydd yn cydlynu’r gwaith o recriwtio ar gyfer yr astudiaeth yng Nghymru: “Mae’n bwysig symud ymlaen yn gyflym, felly os cawsoch LFT neu PCR positif neu symtomau COFID yn y 5 niwrnod diwethaf, rydym yn eich annog i ymweld â gwefan PANORAMIC cyn gynted ag sydd bosibl.
“Rydym eisoes wedi recriwtio 600 o bobl yng Nghymru ar gyfer yr astudiaeth, ac maent yn ein helpu i ateb cwestiynau ynghylch triniaethau ar gyfer eu teuluoedd a’u cyfeillion yn y dyfodol.
“Mae PANORAMIC yn enghraifft arall o’r modd y mae Cymru wedi cyfrannu tuag at astudiaethau hanfodol i wahanol frechiadau, brechiadau atgyfnerthu a thriniaethau ym Mhrydain ac yn fydeang, ac rwyf mor falch o’r holl dïm dan sylw.”
Ewch i wefan astudiaeth PANORAMIC i gofrestru a chael mwy o fanylion.