Cyfle: cyfweliadau ymchwil i hen oedolion
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) a Phrifysgol Caerfaddon yn gweithio ar brosiect ymchwil sy’n cynnwys pobl hŷn yng Nghymru.
Comisiynwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru a chanolbwyntia ar bobl hŷn, eu profiadau o unigrwydd a bod yn ynysig yn gymdeithasol, a’r defnydd o dechnoleg, megis ffonau symudol, gliniaduron, a thabledi, i gysylltu ag eraill yn ystod y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru am ddarganfod os a sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i helpu pobl hŷn i gysylltu ag eraill yn ystod y pandemig.
Bellach, mae'r tîm ymchwil yn edrych i gyfweld â phobl hŷn (65+) sydd wedi derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol neu gefnogaeth y sector cymunedol ac sydd ag ystod o brofiadau o ddefnyddio technoleg i gysylltu gydag eraill.
Cynhelir y cyfweliadau dros y ffôn neu fesul galwadau fideo, byddant yn para oddeutu 45 munud ac yn cael eu recordio (sain yn unig).
Os oes gennych ddiddordeb cymryd rhan, cysylltwch gyda Josh Coles-Riley (e-bost: e-mail: josh.coles-riley@wcpp.org.uk, teleffon: 029 2251 0876 erbyn dydd Gwener 4 Chwefror 2022.