Boy sat alone in bedroom mental health

Mae ymchwil yng Nghymru’n gwneud gwahaniaeth i iechyd meddwl plant a phobl ifanc Cymru

5 Chwefror

Mae gan 1 ym mhob 6 o blant a phobl ifanc broblem iechyd meddwl diagnosadwy, ac mae mwy o lawer yn brwydro â heriau, yn amrywio o fwlio i brofedigaeth. Iechyd meddwl yw’r mater y mae plant, pobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr yn ei godi amlaf â Chomisiynydd Plant Cymru.

Wrth i Wythnos Iechyd Meddwl Plant (7-13 Chwefror) fynd rhagddi, rydyn ni’n taflu goleuni ar bwysigrwydd iechyd meddwl plant a phobl ifanc a’r ymchwil hanfodol sy’n mynd rhagddi yng Nghymru â’r nod o wneud gwahaniaeth i gannoedd o blant.

Mae gan bedair canolfan ymchwil y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n eu hariannu, sef CASCADEDECIPHer, y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, raglenni gwaith sy’n canolbwyntio ar anghenion iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol plant a phobl ifanc.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cyflenwi ac yn cefnogi ymchwil ledled Cymru. Mae’r Athro Ian Jones, Uwch Arweinydd Ymchwil a Chyfarwyddwr y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol yn pleidio achos datblygu a chyflenwi astudiaethau sy’n edrych ar iechyd meddwl ledled Cymru.

Meddai’r Athro Jones: “Mae iechyd meddwl plant a phobl ifanc yr un mor bwysig ag iechyd meddwl oedolion, ac mae ymchwil yn y maes yma’n hanfodol i ddeall y pethau sy’n effeithio arnyn nhw a pha wasanaethau ac ymyriadau y gellir eu rhoi ar waith i gefnogi eu hanghenion. Mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar fywydau llawer o blant, sydd wedi gweld ysgolion yn cau, eu cael eu hunain wedi’u harwahanu oddi wrth ffrindiau a theulu ac wedi cael cyfleoedd prin i wneud chwaraeon a rhyngweithio’n gymdeithasol. Mae hyn wedi dwysáu’r problemau sydd eisoes yn ddifrifol ynghylch llesiant ac iechyd meddwl plant.”

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Astudiaeth ymchwil sy’n gwerthuso effaith amseriad iselder rhiant ar y risg o iselder a chyrhaeddiad addysgol gwael y plentyn

Bu’r astudiaeth hon yn archwilio’r cysylltiad rhwng iselder rhiant, ac amseriad eu hiselder (cyn neu ar ôl i’r plentyn gael ei eni) a’r deilliannau ar gyfer y plentyn, gan gynnwys iselder a chyrhaeddiad addysgol gwael. Dengys y canlyniadau fod  plant sy’n byw gyda rhiant sydd ag iselder yn fwy tebygol o ddatblygu iselder a pheidio â chyrraedd cerrig milltir addysgol.

Meddai’r Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth:
“Mae iselder mamau a thadau yn ffactorau risg o iselder mewn plant, felly mae’n hollbwysig deall cyffredinrwydd salwch meddwl mamau a thadau ymhlith plant a goblygiadau hyn ar gyfer iechyd a deilliannau addysgol plentyn er mwyn gwneud gwaith atal ac ymyrryd cynnar.”

Effeithiau’r pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a warchodir a phlant sy’n byw ar aelwydydd a warchodir yng Nghymru: astudiaeth cysylltu data

Bu’r astudiaeth hon yn cymharu deilliannau iechyd meddwl plant a warchodwyd a phlant a oedd yn byw ar aelwydydd a warchodwyd â phlant yn y boblogaeth gyffredinol yn ystod y pandemig COVID-19. Datgelodd y canlyniadau, o’r plant a oedd heb unrhyw hanes o orbryder neu iselder, roedd y plant a warchodwyd yn fwy tebygol na phlant yn y boblogaeth gyffredinol o ddioddef o orbryder neu iselder yn ystod y pandemig mewn gofal sylfaenol.

Meddai Dr Laura Cowley, Uwch Swyddog Ymchwil Iechyd Cyhoeddus yng Nghanolfan Iechyd y Boblogaeth:
“Rydyn ni wedi estyn yr astudiaeth i archwilio gorbryder ac iselder ymhlith plant mewn gofal eilaidd. Hefyd, mae gwaith dadansoddi pellach ar y gweill sy’n archwilio deilliannau o ran gorbryder ac iselder mewn plant a oedd yn hynod agored i niwed yn glinigol yn 2019, o’u cymharu â’r boblogaeth plant gyffredinol yng Nghymru, cyn y pandemig pan nad oedd yna unrhyw ganllawiau ar warchod ar waith. Bydd hyn yn ein helpu i gadarnhau p’un a yw plant sy’n hynod agored i niwed yn glinigol mewn risg uwch o iechyd meddwl gwael, waeth beth fo’r ymyrraeth warchod.”

Ymyrraeth seicoaddysgol ar y we ar gyfer iselder yn y glasoed: dylunio a datblygu MoodHwb

Darparodd yr astudiaeth hon sail ar gyfer dylunio a datblygu MoodHwb, sef rhaglen ar y we i helpu â hwyliau isel ac iselder ymhlith pobl ifanc a’u rhieni/ gofalwyr. Trwy’r astudiaeth, cyd-ddyluniwyd y rhaglen gyda phobl ifanc a rhieni/ gofalwyr â’r nod o fachu sylw pobl ifanc, hybu hunangymorth a’u cael i geisio help lle bo’n briodol.

Meddai Dr Rhys Bevan Jones, Uwch Gymrawd Ymchwil Glinigol, Prifysgol Caerdydd:
“Ein nod ydy cyflwyno MoodHwb mewn ysgolion, gwasanaethau iechyd ac amgylcheddau eraill i helpu pobl ifanc â’u hwyliau a’u llesiant, a’u teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae’r prosesau cyd-ddatblygu sydd wrth wraidd MoodHwb hefyd wedi’u cyhoeddi a bydd hyn yn darparu sail ar gyfer datblygu technolegau iechyd meddwl digidol eraill.”

Ymyriadau plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i wella deilliannau llesiant ac iechyd meddwl (CHIMES): adolygiad systematig

Mae’r astudiaeth hon yn dod ag ymchwil sydd eisoes yn bodoli ynghyd, sef ymchwil fu’n rhoi ar brawf rhaglenni â’r nod o wella llesiant ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Bydd hyn yn darparu sail ar gyfer ein dealltwriaeth o’r rhaglenni hynny sy’n gweithio a sut a lle y mae angen rhagor o ymchwil.

Cydgynhyrchu neu addasu ymyriadau gofal maeth ar y we: hybu iechyd meddwl a llesiant ymhlith plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal

Nod yr astudiaeth hon yw deall y ffyrdd gorau o addasu gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, yn wasanaethau yn y cnawd ac yn rhai a ddarperir ar-lein neu’n gyfuniad o’r ddau, a deall y ffyrdd gorau o ddatblygu offerynnau ar-lein.

Meddai Dr Rhiannon Evans, ymchwilydd arweiniol yn DECIPHer am y ddwy astudiaeth:
“Mae llesiant ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn bryder iechyd cyhoeddus, gyda deilliannau sy’n waeth o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol.

Yn DECIPHer, rydyn ni wrthi’n gwneud rhaglen o ymchwil ar y cyd â CASCADE a’r Ganolfan Ymchwil Treialon i roi sylw i’r mater pwysig hwn. Rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn adolygu’r sylfaen dystiolaeth bresennol ar gyfer ymyriadau, a hefyd yn edrych ar brofiadau plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Gan ddefnyddio darganfyddiadau ein hymchwil, ein nod yw datblygu a gwella cefnogaeth iechyd meddwl ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal, gan sicrhau bod ymyriadau’n ymateb i’w hanghenion a gwerthoedd plant a phobl ifanc.”

Aeth yr Athro Jones ymlaen: “Mae’n hanfodol ein bod ni’n defnyddio’r darganfyddiadau o astudiaethau ymchwil, fel y rheini sydd wedi’u rhestru, i nodi anawsterau iechyd meddwl plant a phobl ifanc a defnyddio’r sylfaen dystiolaeth y mae ymchwil yn ei darparu i wella gofal ac, yn y pen draw, newid bywydau.”