Adolygiad cyflym o effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU
Effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU
Mae’r adolygiad hwn yn edrych ar dystiolaeth bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi datblygu problemau iechyd meddwl yn ystod y pandemig.
Archwiliwyd 20 o astudiaethau. Mae eu darganfyddiadau wedi’u seilio ar arolygon roedd staff wedi’u cwblhau ac yn darparu ciplun o iechyd meddwl ymhlith y gweithwyr hyn. Roedd hanner yr astudiaethau o’r DU ond dim ohonyn nhw o Gymru. Roedd mwyafrif yr astudiaethau wedi’u cwblhau yn ystod ton gyntaf y pandemig neu ar ei hôl. Ailgynhaliwyd un astudiaeth yn ystod yr ail don. Ni all y canlyniadau brofi mai’r pandemig wnaeth achosi’r problemau iechyd meddwl.
Darganfyddiadau Allweddol
Yn ôl gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU yn y don gyntaf, roedd yna gryn dipyn o orbryder, iselder, anhwylder straen wedi trawma, straen a diffygiad. Roedd ystod y staff a oedd yn rhoi gwybod am yr effeithiau hyn yn y gwahanol astudiaethau’n amrywio’n eang.
Ymhlith problemau eraill y rhoddwyd gwybod amdanyn nhw oedd canolbwyntio gwael, diffyg cwsg, dirywiad ac anhwylder iechyd meddwl, yfed a oedd yn achosi problemau a gofid cyffredinol.
Yn ôl yr un astudiaeth o weithwyr gofal cymdeithasol, roedd yna gyfraddau uchel o iselder cynyddol a thensiwn cynyddol.
Roedd mwyafrif y gweithwyr a soniodd fod eu hiechyd meddwl yn wael
-
yn fenywod
-
eisoes ag anhwylder iechyd meddwl neu wedi dioddef ohono o’r blaen
-
yn poeni am ddal y feirws ac am effeithiolrwydd cyfarpar diogelu personol.
Ni ddaeth unrhyw dystiolaeth i law fod canlyniadau staff o leiafrifoedd ethnig yn wahanol o gwbl i ganlyniadau grwpiau sy’n wyn yn bennaf.
Camau gweithredu posibl
-
Mae’r effaith ar iechyd meddwl gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ddigon i ystyried rhoi blaenoriaeth i gefnogaeth iechyd meddwl ar gyfer y staff hyn.
-
Gellid ystyried mai menywod, gweithwyr â hanes o iechyd meddwl gwael a’r rheini sy’n poeni am ddal COVID yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod angen y gefnogaeth hon.
-
Isel yw ansawdd y dystiolaeth yn y maes hwn ar hyn o bryd. Bydd ymchwil bellach, gan gynnwys monitro iechyd meddwl gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fel mater o drefn, yn ein helpu i ddeall yr effeithiau tymor hir ar staff.
RR00002