Mae mam o Gaerdydd yn gobeithio y gall ymchwil efeilliaid atal eraill rhag teimlo'n ynysig
5 Ebrill
Mae Kirsty Evans, mam o Gaerdydd, yn gobeithio y gall ymchwil i gymhlethdodau posib cael efeilliaid a thripledi helpu rhieni eraill fel hi rhag teimlo mor unig.
Darganfu'r fenyw 36 oed, o Laneirwg, bod ei beichiogrwydd yn un lluosog yn ystod ei sgan 12-wythnos.
“Roedd yn sioc!” chwarddodd hi. “Er na ddylai fod wedi bod, mae’n debyg, gan fod fy mam yn un o efeilliaid, ac yn aml gall redeg mewn teuluoedd.
“Roeddwn i’n nerfus pan wnes i ddarganfod fy mod yn cael genedigaeth luosog, gan fod mwy o risgiau’n gysylltiedig. Nid oedd gennyf unrhyw ffrindiau a oedd wedi profi’r hyn yr oeddwn ar fin ei wneud, a ni oedd yr unig set o efeilliaid yn fy nosbarthiadau babanod a grwpiau cymorth.
“Doedd yna neb i siarad â nhw am gyngor – yn achos efeilliaid, mae’n fater hollol wahanol!”
Y llynedd, cymerodd Kirsty ran yn y prosiect ymchwil Gwerthuso Risg Cyn Geni mewn Beichiogrwydd Effeilliaid (EARS) tra’n feichiog gyda’i merched Mia ac Isabel.
Roedd y prosiect EARS yn astudiaeth ledled y DU a gynhaliwyd gan yr Athro Alexander Heazell, Athro Obstetreg a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Tommy ym Manceinion, a oedd â’r nod o ddarganfod ffactorau risg mewn beichiogrwydd lluosog a all arwain at i fabanod fynd yn wael cyn ac ar ôl genedigaeth.
Cynhaliwyd yr ymchwil o fewn sawl uned famolaeth yn y DU, gan gynnwys yng Nghlinig Beichiogrwydd Lluosog Caerdydd, sy’n gofalu am fenywod â beichiogrwydd efeilliaid neu dripledi yn ardal Caerdydd a’r Fro, ac sy’n gweld hyd at 100 o fenywod y flwyddyn.
Mae’r clinig, a sefydlwyd yn 2011, yn cael ei arwain gan Dr Claire Francis a Dr Amy Robb, obstetryddion ymgynghorol sydd â diddordeb mewn beichiogrwydd lluosog, ynghyd â thîm o fydwragedd a sonograffwyr arbenigol. Y fydwraig arbenigol i’r clinig yw Mrs Denise Goodman, a chefnogir y clinig gan Mrs Maryanne Bray a'i thîm o fydwragedd ymchwil.
Yn ystod ei sgan 12-wythnos y daeth y fydwraig ymchwil yn y Clinig Beichiogrwydd Lluosog i weld Kirsty.
“Daeth un o’r bydwragedd ymchwil i siarad â mi yn fy apwyntiad cyntaf ynghylch cymryd rhan yn astudiaeth EARS. Esboniodd bopeth i mi a gofynnodd i mi a hoffwn gymryd rhan, a gwnes fy holiadur cyntaf yn y fan a’r lle.
“Gofynnwyd llawer o gwestiynau am symptomau ac ymddygiad beichiogrwydd, er enghraifft fy arferion cysgu.”
Mae beichiogrwydd lluosog yn cyfrif am 3% o fabanod ledled y byd. Yn aml, maent yn golygu beichiogrwydd a genedigaethau mwy cymhleth, gyda risg uwch o gyflyrau i famau fel gwaedu trwm ar ôl genedigaeth, toriad cesaraidd brys a chyneclampsia.
Yn yr un modd, mae babanod beichiogrwydd lluosog hefyd yn wynebu mwy o broblemau na beichiogrwydd sengl, gan gynnwys cyfyngu ar dyfiant a genedigaeth gynamserol. Mae Dr Amy Robb a Dr Claire Francis yn edrych ymlaen at ganlyniadau’r astudiaeth a chydweithio yn y dyfodol:
“Mae mor bwysig i’n mamau ein bod yn parhau i ddeall yn well y risgiau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd lluosog, a sut y gallwn wella canlyniadau.
“Mae bod yn rhan o’r darlun ymchwil ehangach wedi bod yn werthfawr, ac mae ein tîm yn edrych ymlaen at ganlyniadau’r astudiaeth a chydweithio yn y dyfodol.”
Roedd Kirsty yn awyddus iawn i gymryd rhan yn y prosiect EARS:
“Os yw cymryd rhan mewn ymchwil yn golygu fy mod yn helpu pobl eraill, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Roeddwn i eisiau helpu i gyfrannu tystiolaeth i famau'r dyfodol sy'n wynebu'r un profiad â mi.
“Mae pobl sy’n cael genedigaethau lluosog yn aml yn nerfus gan fod cymaint o gyflyrau a syndromau na fyddech erioed wedi clywed amdanynt o’r blaen. Gorau po fwyaf o wybodaeth ac ymchwil a gesglir gyda'i gilydd.
“Rwy’n gobeithio y gall yr astudiaeth helpu i roi mwy o gefnogaeth ac arweiniad i famau â beichiogrwydd lluosog ar adeg a all fod yn ynysig ac unig.
“Ar y cyfan, cefais brofiad gwych yn y clinig Beichiogrwydd Lluosog. Roedd y tîm cyfan yn anhygoel. Roedd yn amgylchedd neis iawn a chefnogol, roedd yn wasanaeth gwych.”
Yr Athro Julia Sanders yw Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Iechyd Atgenhedlol:
“Mae yna lawer nad ydym yn ei wybod o hyd am arfer gorau mewn gofal bydwreigiaeth, yn enwedig yn achos mamau sy'n cael genedigaeth luosog. Mae ymchwil fel y prosiect EARS yn hanfodol i gyfrannu tystiolaeth bwysig, fel ein bod yn gwybod beth yw’r ffordd orau o gynghori menywod fel Kirsty a’i chadw hi a’i babanod yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a gofal ôl-enedigol.”
Ganwyd y babanod olaf ar y prosiect ym mis Medi 2021, pan ddechreuwyd dadansoddi'r data. Disgwylir i ganlyniadau'r astudiaeth gael eu cwblhau erbyn mis Tachwedd 2022.
Darganfyddwch fwy am y bobl y tu ôl i'r ymchwil a sut mae ymchwil yng Nghymru wedi newid bywydau.
I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.