Treial brechlyn i ymchwilio i bigiad atgyfnerthu i bobl ifanc yn eu harddegau i amddiffyn rhag COVID-19
21 Mai
Mae ymchwilwyr sy'n cynnal rhaglen Com-COV a arweinir gan Brifysgol Rhydychen wedi lansio astudiaeth genedlaethol arall sy'n asesu gwahanol opsiynau ar gyfer pigiad atgyfnerthu (trydydd dos) i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed.
Gyda chymorth cyllid gan y Tasglu Brechlynnau a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), bydd treial Com-COV 3 yn ceisio recriwtio 380 o wirfoddolwyr ledled y DU.
Yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn chwilio am hyd at 40 o wirfoddolwyr i gymryd rhan yn y treial, a gynhelir yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.
Bydd yr astudiaeth hon yn edrych ar gyfranogwyr sydd wedi'u himiwneiddio gyda dau ddos o frechlyn Pfizer-BioNtech i'w dyrannu ar hap i dderbyn naill ai:
- dos llawn arall i oedolion o frechlyn Pfizer-BioNTech
- un rhan o dair o ddos i oedolion o frechlyn Pfizer-BioNTech
- dos llawn i blant o frechlyn Pfizer-BioNTech
- dos llawn brechlyn Novavax
- brechlyn llid yr ymennydd, ac yna dos o frechlyn PfIzer-BioNTech COVID-19 yn ddiweddarach yn yr astudiaeth (grŵp rheoli)
Yng Nghymru, mae pob person ifanc rhwng 12 a 15 oed yn cael cynnig dau ddos o frechlyn ar hyn o bryd. Bydd yr astudiaeth hon yn ceisio ateb a ddylid ychwanegu dos atgyfnerthu o'r brechlyn at y ddau ddos safonol sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer y grŵp oedran hwn bellach.
Dywedodd Rhian Thomas-Turner, Arweinydd Ymchwil a Datblygu yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru: “Yn yr astudiaeth hon, byddai angen i gyfranogwyr wneud hyd at chwe ymweliad ag Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru. Bydd ymchwilwyr yn dadansoddi unrhyw sgil-effeithiau ac ymatebion system imiwnedd i'r cyfuniadau newydd hyn o frechlynnau.”
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae'r astudiaeth hon yn adeiladu ar yr astudiaethau cenedlaethol blaenorol y mae Cymru wedi cyfrannu atyn nhw a fu’n ymchwilio i'r cyfuniad mwyaf effeithiol o frechlynnau.
“O'n profiad ni, mae pobl ifanc yng Nghymru eisiau gwneud popeth o fewn eu gallu i'n helpu i barhau i geisio deall COVID-19. Hoffem annog unrhyw un sydd â diddordeb i fynd i’r wefan i wirio a ydyn nhw’n gymwys.”
Mae ymchwilwyr yr astudiaeth yn rhagweld y byddan nhw’n adrodd ar y canlyniadau cychwynnol yn 2022. Os yw'r canlyniadau'n addawol, byddai rheoleiddwyr MHRA a JCVI yn asesu effeithiolrwydd unrhyw broses frechu newydd yn ffurfiol cyn dweud a gaiff ei chyflwyno i gleifion.
Gall y rhai sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gofrestru drwy wefan yr astudiaeth.
Amgaeir taflen wybodaeth i gleifion â rhagor o wybodaeth ond os hoffech sgwrs anffurfiol ag aelod o'r tîm astudio pediatrig yng Nghaerdydd neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr astudiaeth, cysylltwch â: comcov3.hcrw@wales.nhs.uk