Proses anfon diwygiadau ar-lein ac offeryn diwygio nawr yn fyw
22 Mai
Mae ein proses newydd ar gyfer anfon diwygiadau ar-lein a’n hofferyn diwygio wedi mynd yn fyw heddiw ledled y DU (dydd Mawrth 2 Mehefin 2020). Mae’r prosesau newydd hyn ar gyfer trin diwygiadau’n rhan o’n rhaglen barhaus i wella gwasanaethau ar gyfer ymgeiswyr.
Rydyn ni’n cyflwyno’r newid hwn i helpu i’w gwneud hi’n haws ac yn fwy cryno rhoi diwygiadau ar waith, a fydd o fudd i ymchwilwyr iechyd ledled y DU, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio ar astudiaethau COVID-19.
Bydd angen i bob ymgeisydd sy’n diwygio ymchwil seiliedig ar brosiect nawr gwblhau’r offeryn diwygio ac anfon eu diwygiad ar-lein. Mae’r offeryn yn disodli’r Ffurflen Hysbysu am Ddiwygiadau Sylweddol, a ffurflenni Diwygiadau Ansylweddol ar gyfer treialon nad ydyn nhw’n ymchwilio i gynhyrchion meddyginiaethol. Yn achos treialon sy’n ymchwilio i gynhyrchion meddygol, bydd dal angen llenwi ffurflen ddiwygio Atodiad 2 EudraCT a gellir llenwi hon o fewn yr offeryn.
Mae canllawiau ar gyfer diwygiadau nawr ar gael ar IRAS.
Bydd angen i ymgeiswyr sefydlu enw mewngofnodi a chyfrinair newydd ar gyfer y rhan newydd o IRAS. Rydyn ni’n rhannu proses fewngofnodi â systemau NIHR ar gyfer y rhannau newydd o IRAS sy’n darparu proses archebu ar-lein, y peilot Ffyrdd Cyfun o Weithio (CWoW) a’r system ddiwygio newydd hon. Os oes gennych chi fanylion mewngofnodi ar gyfer unrhyw system NIHR neu ar gyfer y rhannau newydd hyn o IRAS, gallwch chi ddefnyddio’r un manylion. Os nad oes gennych chi fanylion mewngofnodi ar gyfer y systemau hynny, bydd angen ichi sefydlu enw mewngofnodi a chyfrinair, a bydd y system yn eich tywys trwy hyn.
Mae yna ddau fideo i’ch helpu chi trwy’r prosesau newydd:
Bydd diwygiadau i Fanciau Meinwe Ymchwil (RTB) a Chronfeydd Data Ymchwil hefyd yn cael eu hanfon ar-lein o’r dyddiad hwn. Bydd y rhain yn parhau i ddefnyddio’r Ffurflen Hysbysu am Ddiwygiadau Sylweddol, felly ni ddylid cwblhau’r offeryn diwygio ar gyfer RTB neu Gronfeydd Data Ymchwil.
Os oes gennych chi ymholiadau ynglŷn â sut i ddefnyddio’r offeryn diwygio neu sut i anfon eich diwygiad ar-lein, cysylltwch ag:
Ar gyfer astudiaethau y mae Cymru a Lloegr yn eu harwain: amendments@hra.nhs.uk
Ar gyfer astudiaethau y mae’r Alban yn eu harwain: nhsg.nrspcc@nhs.net
Ar gyfer astudiaethau y mae Gogledd Iwerddon yn eu harwain: Research.Amendments@hscni.net
Gallwch chi roi adborth ar eich profiad o’r broses newydd ar gyfer anfon diwygiadau ar-lein a’r offeryn diwygio trwy gymryd rhan yn ein harolwg.