Profion STI cyflymach i’w treialu yng Nghymru

22 Ionawr

Cymru fydd y rhan gyntaf o’r DU i dreialu profion newydd y GIG a allai gyflymu’r diagnosis o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) trwy ddarparu canlyniadau o fewn oriau.

Bwriad y treial newydd, sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ydy gwella gofal cleifion trwy gynnig profion diagnostig cyflym newydd ar gyfer STI a fydd yn darparu canlyniadau mewn oriau yn hytrach nag mewn dyddiau neu wythnosau.

Hefyd, mae’r profion sy’n destun yr ymchwil hefyd yn dangos y gwrthfiotig mwyaf priodol sydd ei angen i drin haint y claf.

Mae Dr Lucy Jones, Arbenigwr Cyswllt mewn Iechyd Rhywiol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Dr Brad Spiller, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd, yn arwain yr ymchwil ar y cyd.

“Mae heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn cynyddu ledled y DU, o’r naill flwyddyn i’r nesaf, ac rydyn ni ar y rheng flaen o ran ymwrthedd i wrthfiotigau hefyd,” meddai Dr Jones.

“Mae llawer o’r heintiau rydyn ni’n eu gweld mewn iechyd rhywiol, fel mycoplasma a gonorea, yn gallu gwrthsefyll llawer o wrthfiotigau, felly dyna lle mae ein diddordebau ymchwil yn deillio ohono.”

Bydd y treial yn edrych ar sut y gallai profion diagnostig cyflym newydd wella gofal cleifion trwy:

  • Ddarparucanlyniadaumewnrhywychydig o oriau
  • Dangos pa wrthfiotig penodol sydd ei angen i drin heintiau, gan gefnogi lleihau’r achosion o ymwrthedd i wrthfiotigau.
  • Rhoicyfle i gleifionddatrys eu symptomau’ngyflym a lleihau’rtebygolrwydd y bydd yr haint yn cael ei drosglwyddo i rywunarall

Bydd yr astudiaeth yn rhedeg am y ddwy flynedd nesaf yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

“Byddwn ni’n recriwtio cleifion i’r treial ac yn cynnig y cyfle iddyn nhw gael y prawf newydd hwn,” aeth Dr Jones ymlaen i ddweud. “Yn hytrach nag aros dwy wythnos i’r canlyniadau ddod yn ôl yn dangos mycoplasma a gonorea, byddwn ni’n gallu eu ffonio nhw gartref o fewn pedair i bum awr a dweud wrthyn nhw beth ydy’r canlyniadau, a byddwn ni’n gwybod pa wrthfiotig i’w roi iddyn nhw i drin yr haint yn llwyddiannus.

“Fel meddyg iechyd rhywiol, dwi eisiau cynnig cyfle i'm cleifion gael eu canlyniadau yn ôl mor fuan â phosibl, a dwi hefyd eisiau gallu rhoi'r gwrthfiotigau iawn iddyn nhw. Dwi eisiau gallu diogelu’r gwrthfiotigau sydd gennon ni er mwyn peidio â bwydo’r arch-fygiau yma fel nad ydyn nhw’n dod yn broblem fwyfwy o ran ymwrthedd i wrthfiotigau.”

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ariannu ymchwil ledled y GIG yng Nghymru, yn ogystal â staff ymchwil mewn byrddau iechyd.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae cleifion yn ganolbwynt i bob astudiaeth ymchwil rydyn ni’n ei hariannu felly mae’n wych gweld sut y gallai’r syniad yma wneud gwir wahaniaeth i bobl. Dim ond un enghraifft ydy hyn o’r ymchwil ragorol sy’n mynd rhagddi yng Nghymru ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd yr Athro John Geen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu (Y&D) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae’n foddhaus iawn i adran Y&D Cwm Taf Morgannwg eu bod nhw’n gallu cefnogi cyd-ymchwil o ansawdd uchel, sydd wedi’i hariannu, gan ein hymchwilwyr clinigol arbenigol fel Dr Jones a phartneriaid academaidd fel Dr Spiller.

“Mae’r ymchwil bresennol yn rhan o raglen waith sydd wedi esblygu i’r astudiaeth ymyriadol bresennol a allai fod o fudd i lawer o gleifion trwy ddiagnosis a rheolaeth gyflym, ond sydd hefyd yn rhoi sylw i flaenoriaeth iechyd allweddol, sef risgiau cynyddol ymwrthedd i gyffuriau.”