Mae tirnodau Cymreig allweddol yn cael eu goleuo i anrhydeddu ymchwil a all newid bywydau
22 Mehefin
Bydd Castell Caerdydd, Parc Cathays Llywodraeth Cymru, Ysbyty Athrofaol Cymru, ac Ysbyty Athrofaol Llandochau i gyd yn cael eu goleuo mewn coch i ddathlu #CochDrosYmchwil, diwrnod o gydnabyddiaeth i’r ymchwil sydd wedi newid bywydau, a gynhaliwyd yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf, lle y cynigiodd ymchwil obaith i gymaint o bobl.
Diwrnod o gydnabyddiaeth
Dechreuodd Diwrnod #CochDrosYmchwil yn 2020 fel ffordd o ddiolch i’r timau ymchwil anhygoel sy’n cydweithio i ddatblygu diagnosteg a thriniaethau newydd.
Nid unigolion sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain sy’n cynnal ymchwil, ond yn hytrach caiff ei wneud yn bosibl gan bobl ledled y byd yn gweithio gyda’i gilydd.
Cefnogwyd #CochDrosYmchwil gan bobl yn America, Awstralia, Chile, yr Eidal, Sbaen, Malaysia ac India yn ogystal â’r DU, lle y dechreuodd. Eleni, bydd tirnodau allweddol yn cael eu goleuo, fel ffordd o gydnabod timau ymchwil ar draws byrddau iechyd a chanolfannau ymchwil.
Ymchwil yng Nghymru
Yn dilyn ymchwil a gynhaliwyd yma yng Nghymru i helpu i frwydro yn erbyn COVID-19, sefydlwyd a chyflwynwyd 119 o astudiaethau COVID-19, gan gynnwys saith prawf brechlyn, gan roi cyfle i fwy na 60,000 o bobl yng Nghymru gymryd rhan mewn ymchwil. Cynhaliwyd yr ymchwil hwn ochr yn ochr â llawer o astudiaethau eraill yn cwmpasu ystod o gyflyrau iechyd a gofal cymdeithasol, megis canser, ffrwythlondeb, a dementia.
Mae ymchwil wedi newid bywydau
Cymerodd Jane, 56, o Ogledd Caerdydd ran yn astudiaeth Graddfa Adfer Trawma Aelodau Isaf Cymru (WaLLTR), a ddatblygodd ac a brofodd offeryn i gefnogi adferiad cleifion a oedd wedi dioddef toriad difrifol o’r goes, a elwir yn doriad tibiaidd agored. Ar gyfer yr astudiaeth hon, aeth Jane ar sawl ymweliad ag Ysbyty Treforys yn Abertawe, a chymerodd ran mewn gweithdai a chlinigau fel rhan o driniaeth ymarfer corff i helpu pobl fel hi i wella'n gyflymach o'u hanafiadau.
Meddai: “Heb bobl fel fi yn gwirfoddoli i helpu gydag astudiaethau, ni fyddai ymchwilwyr yn gallu gwneud gwelliannau hanfodol wrth ofalu am gleifion. Mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth ac mae'n rhoi boddhad mawr, felly byddwn yn annog eraill i'w wneud hefyd.
“Heb ymchwil, efallai y byddai pethau wedi bod yn waeth i mi ar ôl fy namwain. Er enghraifft, efallai na fyddai wedi bod yn bosib achub fy nghoes, a oedd angen pedair llawdriniaeth.
“Rwy’n atgoffa fy hun ei bod wedi cymryd llawer o bobl i’m rhoi yn ôl wrth fy ngilydd eto ac rwy’n teimlo’n eithaf ffodus fy mod wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth honno, a oedd yn debygol o arwain at wellhad corfforol cyflymach a theimlad fy mod yn derbyn cefnogaeth gan y meddygon a’r ffisiotherapyddion.”
Dywedodd y Prif Weinidog, yr Athro Mark Drakeford: "Mae ymchwil mor bwysig i sicrhau ein bod yn parhau i wella ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, lles ein poblogaeth, ac i ddarparu'r gofal a'r driniaeth fwyaf effeithlon a chyfoes i gleifion.
"Mae ymchwil yn aml yn rhywbeth nad yw'n cael sylw, ond mae ein timau ymchwil talentog ledled Cymru yn mynd y tu hwnt i gyflwyno astudiaethau sy'n newid bywydau o ddydd i ddydd. Bydd yr astudiaethau hyn yn effeithio arnom ni a'n hanwyliaid yn y dyfodol ac rwyf am gydnabod eu hymdrechion heddiw a dweud 'diolch' gennym i gyd."
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu, yn cefnogi ac yn goruchwylio’r holl ymchwil a gynhelir yma yng Nghymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Kieran Walshe: “Er mai arwydd bach yw, bydd goleuo tirnodau enfawr ledled Cymru a’r DU yn rhoi mewn persbectif sut mae ymchwil yn effeithio ar bawb, ac yn llythrennol yn taflu goleuni ar y rhai y tu ôl i’r gwaith anhygoel hwn.
“Rydym yn gobeithio y bydd y gydnabyddiaeth hon yn gwneud i fwy o bobl feddwl am yr effaith ac yn annog mwy o bobl i helpu mewn unrhyw ffordd y gallant.”