Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n croesawu’r dadansoddiad mwyaf o gyllid ymchwil iechyd y DU
25 Ionawr
Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan gorff Cydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU (UKCRC) yn cyflwyno’r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o gyllid ymchwil iechyd y DU erioed i’w gynhyrchu.
Gan ddwyn data ynghyd oddi wrth 146 o elusennau, sefydliadau proffesiynol a sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, darganfu Dadansoddiad Ymchwil Iechyd y DU 2018 fod yr arianwyr hyn wedi cyfrannu £4.8 biliwn yn 2018 i gefnogi ymchwil i wella iechyd y bobl.
Yr adroddiad diweddaraf hwn yw’r pedwerydd mewn cyfres sy’n siartio newidiadau mewn ymchwil iechyd dros y 14 mlynedd diwethaf.
Meddai Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni yn Is-adran Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru:
“Rydyn ni’n croesawu’r adroddiad hwn yn fawr. Mae’n ffordd ragorol i arianwyr ddeall y dirwedd ymchwil ledled y DU, i sicrhau ein bod ni’n cydweithio gan ddefnyddio ein harbenigedd ymchwil ar y cyd i fynd i’r afael â’r heriau iechyd a gofal y mae pob un o’n gwledydd yn eu hwynebu.”
Gallwch chi ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan System Ddosbarthu Ymchwil Iechyd UKCRC.