Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £40m o gyllid i fynd i’r afael â’r brigiad yn yr achosion o’r coronafeirws newydd
27 Chwefror
Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod yna gyllid o £20 miliwn ar gyfer y Gynghrair Arloesi i fod yn Barod ar gyfer Epidemig (CEPI) i ariannu brechiadau ar gyfer coronafeirws a chlefydau heintus eraill.
Mae NIHR ac Ymchwil ac Arloesi y DU wedi cyhoeddi galwad cyllid o £20 miliwn ychwanegol ar gyfer prosiectau a fydd yn cyfrannu at ddeall, diagnosio, atal a rheoli’r feirws.
NIHR ac Ymchwil ac Arloesi’r DU
Gwahoddir ymchwilwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau i fynd i’r afael â’r brigiad yn yr achosion o’r coronafeirws newydd, mewn menter ‘ymateb cyflym’ gwerth £20 miliwn wedi’i hariannu gan yr NIHR ac Ymchwil ac Arloesi’r DU ar y cyd.
Mae’r gronfa hon yn ychwanegol at yr £20m o gyllid i CEPI.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 13 Chwefror 2020 12:00 GMT
I gael rhagor o wybodaeth am y cyllid hwn, ewch i wefan NIHR.
CEPI
Daw’r cyllid yn sgil lledaeniad byd-eang cyflym yr achosion o goronafeirws newydd (2019-nCoV).
Mae CEPI, ar y cyd â Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), yn gweithio i ddatblygu brechiad yn erbyn y coronafeirws newydd.
Mae CEPI wedi agor galwad am gynigion i ddatblygu a gweithgynhyrchu brechiad profedig y gellir ei ddefnyddio yn erbyn 2019-nCoV.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy dydd Gwener 14 Chwefror (2020), 15:00 Amser Canolbarth Ewrop.
https://cepi.net/get_involved/cfps/
Mae’r alwad ar agor yn fyd-eang i bob math o sefydliad ymchwil dielw, cwmnïau er-elw, sefydliadau rhyngwladol, cyd-fentrau ymchwil a datblygu, sefydliadau ymchwil y llywodraeth a sefydliadau academaidd sydd, yn ddelfrydol, ag ôl troed daearyddol yn rhyngwladol.
Partneriaeth arloesol fyd-eang rhwng sefydliadau cyhoeddus, preifat, haelionus a chymdeithasau sifil ydy CEPI. Mae’n gweithio i gyflymu gwaith datblygu brechiadau yn erbyn clefydau heintus sy’n dod i’r amlwg ac i sicrhau bod y brechiadau hyn ar gael yn gyfartal i bobl yn ystod brigiadau o achosion.
Mae’r wybodaeth lawn ar gael yn https://cepi.net/