Prif Swyddog Meddygol Cymru’n croesawu adroddiad Academi’r Gwyddorau Meddygol
27 Chwefror
Prif Swyddog Meddygol Cymru’n croesawu adroddiad Academi’r Gwyddorau Meddygol
Mewn ymateb i’r adroddiad y mae Academi’r Gwyddorau Meddygol wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar, ‘Transforming Health through Innovation: Integrating the NHS and Academia’, meddai Dr Frank Atherton:
“Rydyn ni’n croesawu’r themâu a’r materion y mae’r adroddiad yn eu codi’n fawr, gan eu bod nhw’n cydnabod pwysigrwydd a gwerth ymchwil ar draws lleoliadau iechyd a gofal. Yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru trwyddo draw, rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin cymhwysedd a gallu mewn ymchwil er budd cleifion a’r cyhoedd.
“Rydyn ni’n falch o weld bod mentrau yng Nghymru wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn enwedig Fframwaith Cyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chynllun Amser Ymchwil y GIG, y ddau ohonyn nhw wedi chwarae rôl allweddol mewn cryfhau cymhwysedd a diwylliant ymchwil.
“Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cydnabod pwysigrwydd cefnogi ac annog staff ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau, o feddygon, nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ymarferwyr cymunedol a gwyddonwyr gofal iechyd i fod yn weithgar ym maes ymchwil ac mae hyn yn amlwg yn gam pwysig tuag at ddatblygu a chadw gweithlu sydd â’r sgiliau i ateb heriau’r dyfodol.”