beicio teuluol ger y môr

Ysgolion cynradd yng Nghymru yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn astudiaeth diogelwch haul

10 Gorffennaf

*Mae'r arolwg hwn bellach ar gau*

Mae ymchwilydd sydd wedi’i hysgogi gan losg haul ei mab ar ddiwrnod mabolgampau ysgol yn annog ysgolion cynradd ledled Cymru i helpu i ddatblygu canllawiau diogelwch haul ar gyfer tymhorau’r gwanwyn a’r haf.

Mae Dr Julie Peconi, o Brifysgol Abertawe, yn arwain prosiect ymchwil o'r enw Sunproofed sy'n ceisio deall sut mae ysgolion cynradd yng Nghymru yn ymateb i gyfraddau cynyddol canser y croen ac archwilio pa mor effeithiol yw polisïau diogelwch haul mewn ysgolion o ran gwybodaeth ac ymddygiad. Ariennir Sunproofed gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Bygythiadau cynydd Canser y Croen

Gwelodd Julie, gwirfoddolwr gyda’r elusen groen, Skin Care Cymru, angen am ei hymchwil ar ôl dysgu am broblem gynyddol canser y croen yng Nghymru a gweld yr effaith gynyddol ar lwythi achosion dermatolegwyr. Ynghyd â llosg haul diwrnod mabolgampau ei mab, ysgogodd hyn hi i ddatblygu’r astudiaeth gwrth-haul Sunproofed.

“Er gwaetha’r syniad bod Cymru’n wlad ‘lawog’, mae llosg haul a chanser y croen yn broblemau cynyddol”, meddai.

“Yn ôl Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, cynyddodd cyfradd grai canser y croen melanoma 96.7% rhwng 2002 a 2019. Gan fod llosg haul difrifol yn ystod plentyndod yn cynyddu’n sylweddol y risg o ganser y croen yn ddiweddarach mewn bywyd, mae addysgu plant ysgol sut i atal canser y croen a sut i fwynhau'r haul yn ddiogel yn gwneud synnwyr.

Canllawiau Diolgelwch yr Haul i Ysgolion

“Mae Sunproofed yn edrych ar ysgolion cynradd yng Nghymru a sut maen nhw'n ymateb i'r cyfraddau cynyddol hyn o ganser y croen, a sut y gall ysgolion helpu i amddiffyn ac addysgu plant.

“Rydym yn gofyn i bob ysgol gynradd yng Nghymru wneud arolwg byr i’n helpu i ddeall a oes gan ysgolion bolisïau diogelwch haul a pha gymorth sydd ei angen ar ysgolion yn y maes hwn.”

Unwaith y bydd y data o'r arolwg wedi'i gasglu, bydd y Tîm Ymchwil yn ei gymharu â data gofal iechyd arferol dienw i weld a oes cysylltiad rhwng polisïau ysgol a chysylltiadau gofal iechyd ar gyfer llosgiadau haul.

“Ar ôl i ni archwilio’r data, a chwblhau cyfweliadau gyda rhieni, athrawon a phlant i nodi unrhyw rwystrau posibl i addysgu diogelwch haul yn yr ysgol, byddwn yn creu set o ganllawiau arfer gorau a argymhellir ar gyfer ysgolion. Yn y pen draw, y nod yw i ysgolion helpu i atal niwed haul i groen cyn iddo ddigwydd”, meddai Julie.

Astudiaeth gydweithredol yw Sunproofed sy’n cynnwys sefydliadau eraill Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gydag aelodau tîm wedi’u lleoli yn yr Uned Dreialon yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, dadansoddwyr SAIL Databank a gwyddonwyr data, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 

Mwynhewch yr Haul yn ddiogel

Mae Dr Rachel Abbott, Dermatolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Caerdydd a’r Fro, yn arwain ochr glinigol yr astudiaeth:

Mae plant yn treulio llawer iawn o amser yn yr ysgol yn chwarae ac yn dysgu yn yr awyr agored, ac un ffordd o atal canser y croen yw addysgu plant yn yr ysgol sut i amddiffyn eu hunain rhag ymbelydredd uwch-fioled yr haul.

“Bydd yr astudiaeth hon yn hyrwyddo ataliad ac yn addysgu’r genhedlaeth nesaf am beryglon gor-amlygiad i'r haul a sut y gallant fwynhau’r haul yn ddiogel."

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae atal afiechyd cyn iddo ddigwydd yn amlwg yn well i bawb. Mae asesiad clir o’r dirwedd bresennol yng Nghymru o ran polisïau diogelwch yn yr haul mewn ysgolion a chynhyrchu canllawiau ar sail tystiolaeth ar y dulliau gorau o weithredu mor bwysig i alluogi Cymru i symud tuag at atal canser y croen, gan gadw pobl yn iachach am gyfnod hwy."

Diolch i waith anhygoel tîm Sunproofed sy'n helpu plant i fwynhau'r haul yn ddiogel.

Diweddarwyd yr erthygl hon ar 25 Mai 2023.