CRP Sean Cutler cofrestredig cyntaf Cymru

Yr Ymarferydd Ymchwil Glinigol achrededig cyntaf yng Nghymru

22 Gorffennaf

Mae staff cyflenwi ymchwil yn hanfodol i drawsnewid triniaeth a gofal yn y GIG trwy ymchwil.

Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd amrywiol yn gweithio mewn rolau cyflenwi ymchwil ac mae Swyddogion Ymchwil a Swyddogion Astudiaethau Clinigol yn rhan bwysig o’n timau cyflenwi ymchwil ledled Cymru. Fodd bynnag, yn wahanol i weithwyr proffesiynol eraill perthynol i ofal iechyd, nid oedd gan y rolau hyn lwybr addysg a hyfforddiant ffurfiol, na fframwaith cymhwysedd safonol yn y sector iechyd a gofal, tan i’r cynllun cofrestru ac achredu Ymarferwyr Ymchwil Glinigol gael ei gyflwyno.

Cyflwynwyd cofrestr achrededig genedlaethol ar gyfer Ymarferwyr Ymchwil Glinigol gyntaf ym mis Gorffennaf 2021, â’r nod o wella hunaniaeth broffesiynol staff cyflenwi ymchwil a darparu llwybr gyrfa clir ar eu cyfer.

Sean Cutler, Swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol Aneurin Bevan, ydy’r Ymarferydd Ymchwil Glinigol cyntaf i gael ei gofrestru yng NghymruMeddai:

Mae’r cofrestriad achrededig yn union fel ‘stamp’ ar eich rôl sy’n cadarnhau eich hunaniaeth broffesiynol. Nawr, galla’ i weithio’n annibynnol ac yn hyderus ar y wardiau, yn gweld cleifion ar fy mhen fy hun ac yn cael cydnabyddiaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn yr ysbyty.

I gyflawni’r cofrestriad, roedd yn rhaid i mi fynd trwy’r fframwaith cymhwysedd ar arweinyddiaeth, gan weithio ar draws ffiniau ac atebolrwydd proffesiynol. Byddai’n rhaid i mi eistedd i lawr gyda’m rheolwr a chasglu adborth oddi wrth gyfranogion, pen ymchwilwyr a chydweithwyr.

Rydw i’n teimlo’n falch iawn mai fi ydy’r Ymarferydd Ymchwil Glinigol Cofrestredig cyntaf yng Nghymru. Mae’r cofrestriad ar gyfer mwy na fy ngyrfa i fy hun; rydw i hefyd wrth fy modd yn bod yn rhan o’r gymuned Ymarferwyr Ymchwil Glinigol newydd yma lle rydyn ni’n rhannu arfer gorau, y rôl y mae Ymarferwyr Ymchwil Glinigol yn ei chwarae mewn byrddau iechyd eraill yn ogystal â’r amrywiaeth o astudiaethau sy’n newid bywydau rydyn ni’n gweithio arnyn nhw.”  

Mae rheolwr llinell Sean, Abby Waters, Arweinydd y Tîm Cyflenwi Ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gwneud sylwadau ar fuddion y gydnabyddiaeth hwn i’r tîm. Meddai:

Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad hanfodol y mae Ymarferwyr Ymchwil Glinigol yn eu cyfrannu at ein gweithlu Cyflenwi Ymchwil sy’n datblygu. Maen nhw’n cefnogi astudiaethau ymchwil glinigol amrywiol ochr yn ochr â nyrsys cofrestredig a gweithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd, gan ddarparu gofal arbenigol i’r rheini sy’n cymryd rhan mewn ymchwil a’u teuluoedd. Sean ydy’r cyntaf o nifer o Ymarferwyr Ymchwil Glinigol yng Nghymru i ennill y cofrestriad achrededig ar gyfer Ymarferwyr Ymchwil Glinigol. Mae’r datblygiad hwn yn safoni cymhwysedd proffesiynol ar gyfer y rôl ledled y DU, a fydd yn gwella ansawdd ac atebolrwydd ac yn helpu i lunio llwybrau gyrfa mwy eglur ym maes ymchwil glinigol.

Meddai Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae Ymarferwyr Ymchwil Glinigol yn rhan hanfodol o’n gweithlu ymchwil, gan gynorthwyo â chyflenwi ymchwil glinigol dra-effeithiol, o ansawdd uchel. Mae’r cynllun achredu’n helpu i gynyddu statws Ymarferwyr  Ymchwil Glinigol proffesiynol, i gydnabod eu cyfraniadau ac i sicrhau eu bod yn cael yr un datblygiad proffesiynol â gweithwyr proffesiynol cydnabyddedig eraill. Pleser o’r mwyaf yw gweld Sean yn derbyn yr achrediad cofrestredig cyntaf yng Nghymru a mwy o Ymarferwyr Ymchwil Glinigol yn gweithio tuag at yr achrediad hwn.”  

Mae’r cynllun achredu wedi’i lansio gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, mewn partneriaeth â Rhaglen Cofrestri Achrededig yr Academi Gwyddorau Gofal Iechyd, ac mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi’i gydnabod.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddechrau’ch siwrnai, ewch i wefan NIHR a sgwrsio â’ch rheolwr llinell.