Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n bwriadu buddsoddi hyd at £3m mewn Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion newydd yng Nghymru
21 Awst
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi agor galwad ariannu sy’n edrych am Sefydliad Addysg Uwch i greu a chydariannu Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion newydd.
Nod ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion, sef un o ganolbwyntiau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw mynd i’r afael â materion fel poblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd yn y galw am ofal cymdeithasol.
Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n darparu hyd at £3m dros bum mlynedd, gan ariannu swyddi staff i gefnogi a datblygu canolfan ymchwil a fydd yn sicrhau cyllid ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol ac yn cyfrannu at ddatblygu polisi ac arfer gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru.
Bydd disgwyl i’r Sefydliad Addysg Uwch llwyddiannus ddarparu cyllid ar y cyd yn ystod y cyfnod pum mlynedd cychwynnol, a bod â chynllun cynaliadwy ar gyfer ariannu’r swyddi y tu hwnt i gyfnod buddsoddiad Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Meddai Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi rhai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn ogystal â’n gwasanaeth iechyd. Mae capasiti ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru yn dal i fod yn gyfyngedig a gellid dadlau ei fod wedi gwanhau mewn blynyddoedd diweddar. Mae’r capasiti cyfyngedig hwn wedi gadael Cymru mewn sefyllfa wael i fanteisio ar gyfleoedd ariannu mawr cysylltiedig.
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i nodi’r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i ddiwallu’r galwadau ychwanegol ar wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion. Rydyn ni’n disgwyl y bydd y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion newydd yn rhoi hwb i gapasiti ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion ac y bydd o fudd i ddatblygu polisi ac arfer yng Nghymru.”
Gellir dod o hyd i’r briff a’r ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17:00 ar 20 Medi 2022